Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Dewch i’n Pentref Bargen Torfaen cyntaf

People sitting on bales of hay at an event with branding advertising Cwmbran Big Event

Yn ystod #WythnosGwirfoddolwyr, rydyn ni'n dathlu ein byddin wych o wirfoddolwyr! Dewch draw i gwrdd â rhai o'r rheiny sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau – ac i ddarganfod sut allwch chi gymryd rhan - yn ein Pentref Bargen Torfaen cyntaf.

Dim ond wythnos sydd i fynd tan ddigwyddiad mawr cyntaf yr haf - Digwyddiad Mawr Cwmbrân!

Mae disgwyl i filoedd o bobl alw heibio i Lyn Cychod Cwmbrân, ddydd Sadwrn 13 Mehefin, ar gyfer y wledd o adloniant sydd wedi’i threfnu gan Gyngor Cymuned Cwmbrân.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys hwyl i'r teulu, gweithgareddau chwaraeon, prosiectau natur, marchnad nwyddau arbenigol, stondinau bwyd a cherddoriaeth fyw rhwng hanner dydd a 5pm.

Bydd y Pentref Bargen Torfaen cyntaf erioed yno hefyd, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am ffordd newydd y Cyngor o weithio ochr yn ochr â chymunedau a phartneriaid fel Cynghrair Gwirfoddol Torfaen a Halo Leisure, i wella bywydau pobl ar draws y Fwrdeistref.

Yn ogystal, bydd yna...

  • Lolfa gymunedol, lle gallwch chi gwrdd â gwirfoddolwyr
  • Gweithgareddau sy'n cael eu rhedeg gan y gymuned, gan gynnwys bws troed i'r safle o Stadiwm Cwmbrân ac ymgyrch godi sbwriel wirfoddol
  • Gweithgareddau iechyd a llesiant gan Halo Leisure
  • Cyfleoedd NEWYDD am brentisiaethau gyda’r Cyngor
  • Clwb ieuenctid gwib gyda gweithgareddau
  • Llyfrgell a gweithgareddau i blant
  • Cyngor am ailgylchu ac ailddefnyddio

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein Pentref Bargen Torfaen yn helpu i ddod â'n ffordd newydd o weithio yn fyw i bobl. Bydd yn gyfle i drigolion siarad â thimau a grwpiau a chael syniadau am sut y gallant wneud newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau.

"Hoffwn ddiolch i Gyngor Cymuned Cwmbrân am adael i ni ddod â'n Pentref Bargen i Ddigwyddiad Mawr Cwmbrân, ac i'r mudiadau a fydd yn ymuno â ni ar y diwrnod, gan gynnwys Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, Halo Leisure, Circulate a Wastesavers."

Ychwanegodd Gareth Davies, clerc Cyngor Cymuned Cwmbrân: "Mae Cyngor Cymuned Cwmbrân yn falch o arwain y diwrnod allan gwych hwn yng Nghwmbrân. Mae'r digwyddiad yn mynd yn fwy ac yn well bob blwyddyn ac yn ôl yr adborth mae’n ddigwyddiad y mae'r gymuned yn ei fwynhau a'i gefnogi. Rydyn ni wedi ychwanegu gwasanaeth parcio a theithio eleni hefyd, felly mae’n haws fyth i bobl ddod heb orfod dod â'r car."

Bydd y gwasanaeth parcio a theithio ar waith o'r safle bysiau ym maes parcio Asda a Ffordd Llanfrechfa, rhwng hanner dydd a 5.30pm. Gallwch barcio yn unrhyw un o’r meysydd parcio yng nghanol tref Cwmbrân.

Bydd Pentref Bargen Torfaen ar ochr Caeau De y llyn cychod, ger y linell wibio yn yr ardal chwarae i blant.

Bydd ymwelwyr â Phentref Bargen Torfaen yn cael cyfle am ddim i ennill gwobr o dri mis o Aelodaeth gyda Halo Leisure.

Bydd Pentref Bargen Torfaen hefyd yn y Parti yn y Parc ym Mhont-y-pŵl, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf.

Dysgwch fwy am Fargen Torfaen.

Am gyfleoedd i wirfoddoli, ewch i Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd).