Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Gwanwyn Glân Torfaen 2026

Spring clean

Mae ymgyrch Gwanwyn Glân Torfaen Cadwch Dorfaen yn Daclus eleni yn dechrau ddydd Mercher 11 Mawrth.

Cynhelir pum digwyddiad codi sbwriel mewn partneriaeth â Cadwch Gymru'n Daclus, yn y lleoliadau canlynol:

  • Dydd Mercher 11 Mawrth, 10am-2pm, cwrdd ym maes parcio Pentre’ Uchaf oddi ar Edlogan Way ger The Olive Tree
  • Dydd Gwener 13 Mawrth, 10am-2pm, cwrdd ym maes parcio Llyn Cychod Cwmbrân
  • Dydd Llun 16 Mawrth, 10am-2pm, cwrdd yng Nghanolfan Gymunedol Cold Barn Farm
  • Dydd Iau 19 Mawrth, 10am – 2pm, cwrdd ym maes parcio Llynnoedd y Garn
  • Dydd Mawrth 24 Mawrth, 10am – 2pm, cwrdd ym maes parcio Canolfan Hamdden Halo Pont-y-pŵl ger y bont.

Mae'r lleoliadau yn hygyrch i bobl ag anawsterau symudedd, a gallwch droi i fyny ar y diwrnod.

Darperir offer codi sbwriel ond cynghorir pobl i ddod â menig ac esgidiau cadarn ac i wisgo’n addas ar gyfer y tywydd.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae Gwanwyn Glân yn enghraifft berffaith o Fargen Torfaen ar waith.

"Mae'n gyfle i unigolion a grwpiau wella’u hamgylchedd lleol gan ddefnyddio offer a ddarperir gan y Cyngor a phartneriaid.

"Casglwyd 68 bag o sbwriel yn ystod digwyddiadau Gwanwyn Glân Cadwch Torfaen yn Daclus y llynedd a 13 bag o ddeunydd i’w ailgylchu - dewch i ni weld a allwn ni dorri’r record hon eleni!"

Meddai Owen Beryshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae'r gwanwyn yn amser perffaith i fynd allan a dangos rhywfaint o ofal i’r lleoedd hynny rydyn ni'n eu caru. Gall sesiwn godi sbwriel syml fywiogi stryd, codi'ch hwyliau, a dod â phobl at ei gilydd.

"Mae'n ffordd gadarnhaol, ymarferol o gwrdd â'ch cymdogion, mwynhau'r awyr iach, a gwneud gwahaniaeth go iawn. Felly, cydiwch mewn bag, camwch allan, ac ymunwch ag arwyr sbwriel eraill sy'n helpu i gadw Torfaen yn daclus."

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau Gwanwyn Glân Cadwch Dorfaen yn Daclus, ewch i wefan Cyswllt Torfaen (yn agor mewn tab newydd).

Gallwch wirfoddoli i gasglu sbwriel trwy gydol y flwyddyn trwy ymuno â grŵp casglu sbwriel lleol. Am ragor o wybodaeth, dilynwch grŵp Facebook Torfaen Greener Cleaner Volunteers (yn agor mewn tab newydd).

Neu, gallwch drefnu eich digwyddiad eich hun a benthyg offer codi sbwriel am ddim o'ch hwb casglu sbwriel agosaf. (yn agor mewn tab newydd)

Rhagor o wybodaeth am Gwanwyn Glân a lleoliadau unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus sydd ar droed ledled Cymru