Trigolion yn llorio'r her ailgylchu

KUWTJ eng

Mae’r gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu wedi codi 16 y cant ar draws Torfaen ers i ymgyrch Cystadlu â’ch Cymdogion y Cyngor ddechrau.

Ers mis Medi, mae swyddogion addysg a gorfodi ailgylchu wedi bod yn dosbarthu llyfrynnau Cystadlu â’ch Cymdogion ac yn cynghori trigolion am sut i leihau’r gwastraff y eu biniau â chlawr porffor.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Diolch yn fawr iawn i drigolion am ailgylchu eu gwastraff bwyd trwy ein casgliad wythnosol wrth ymyl y palmant, ac yn enwedig i unrhyw drigolion a allai fod wedi bod yn amheus o'r blaen.

"Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n parhau i ailgylchu nawr eu bod nhw wedi rhoi tro arni. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweld ei bod yn llawer gwell peidio â chael bwyd yn sefyllian am bythefnos, a'i selio yn y cadis.

"Mae gwastraff bwyd wedi bod yn gyfran fawr o’r gwastraff yn y bin â chlawr porffor erioed, felly rydyn ni wrth ein boddau i weld mwy ohono’n cael ei roi allan i'w ailgylchu.

"Mae hefyd yn wych ein bod ni'n gallu cynhyrchu ynni a gwrtaith o fwyd sydd dros ben. Er, mae gwastraffu cyn lleied o fwyd â phosibl hyd yn oed yn well!."

Dyma ambell air o gyngor gan ein tîm i helpu trigolion i ailgylchu'n fwy effeithiol:

  • Dechreuwch yn fach. Ceisiwch ailgylchu eich bagiau te a'ch plisgyn wy am wythnos, i weld sut mae'n mynd. Cyn hir, byddwch chi'n methu â chredu sut wnaethoch chi oroesi heb gasgliad gwastraff bwyd wythnosol.
  • Eisiau help? Mae ein Swyddogion Addysg a Gorfodi Ailgylchu yma i'ch cefnogi. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd, byddan nhw’n gallu eich helpu i leihau faint sy'n mynd i mewn i'ch bin â chlawr porffor.

Bydd y tîm yn monitro biniau â chloriau porffor ac yn estyn allan at aelwydydd sydd â biniau gorlawn neu fagiau sbwriel ychwanegol, i gynnig cyngor a chymorth.

Ond, os na fydd unrhyw newid, gallen nhw gael llythyr o rybudd ac, yn y pen draw, Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.

Bydd y tîm hefyd yn monitro gwastraff biniau â chlawr porffor, a bydd yn cysylltu ag unrhyw aelwydydd y mae eu biniau yn orlawn neu sydd â bagiau sbwriel ychwanegol wrth eu hymyl.

Y nod yw codi’r gyfradd ailgylchu yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru a helpu i gyrraedd targedau carbon sero net.

Mewn arolwg Codi'r Gyfradd yn 2023, dywedodd 56 y cant o drigolion y byddent yn cefnogi camau gorfodi yn erbyn y rheiny sydd ddim yn ailgylchu.

Gallwch ddarllen mwy am Bolisi Addysg a Gorfodi Gwastraff y Cyngor (yn agor mewn tab newydd) ar ein gwefan.

Darganfyddwch beth allwch chi ei ailgylchu ar garreg eich drws (yn agor mewn tab newydd)

Angen bocsys neu fagiau ailgylchu ychwanegol? Chwiliwch am eich hwb ailgylchu agosaf (yn agor mewn tab newydd)

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (yn agor mewn tab newydd) ar agor saith niwrnod yr wythnos. Gofynnwn yn garedig i chi wahanu’ch ailgylchu a’ch sbwriel.