Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Community projects brighten Pontypool town centre

Youth service and children from Osbourne Lodge nursery

Mae potiau planhigion newydd a gwaith celf lliwgar yn helpu i loywi canol tref Pont-y-pŵl, diolch i ymdrechion grwpiau cymunedol a phobl ifanc lleol.

Cafodd pedwar pot planhigion newydd a grëwyd gan Hwb Cymunedol Coedwedd, yn Abersychan, eu gosod ddydd Gwener, gyda phlant o Feithrinfa Osbourne Lodge yn torchi llewys i helpu gyda’r plannu.

Mae'r feithrinfa yn un o nifer o fusnesau sydd wedi mabwysiadu'r potiau – a bydd chwech arall yn cael eu gosod yn nes ymlaen.

Yn y cyfamser, mae aelodau o Wasanaeth Ieuenctid Torfaen wedi trawsnewid palisau y tu allan i Eglwys Iago Sant ar Hanbury Road, gyda murlun lliwgar newydd. Yn y pendraw, bydd y gwaith celf dros dro yn symud i’r parc sgrialu newydd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Parc Pont-y-pŵl.

Dadorchuddiwyd gwaith celf newydd hefyd ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ger mynedfa Crane Street. Crëwyd y gwaith gan ArtREGEN Pont-y-pŵl a gwirfoddolwyr o’r gymuned, gan ychwanegu mwy o liw ac egni eto at ganol y dref.

Mae'r prosiectau'n rhan o raglen newydd Trefi Gyda'i Gilydd, sy'n anelu at ddod â busnesau, gwirfoddolwyr a thimau’r Cyngor at ei gilydd i wella canol trefi.

Ddydd Sadwrn, cymerodd 30 o bobl ran yn niwrnod torchi llewys cymunedol cyntaf Trefi Gyda'i Gilydd wrth i wirfoddolwyr o Dasglu Pont-y-pŵl, Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl, Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, ArtREGEN Pont-y-pŵl, Hyrwyddwyr Sbwriel Torfaen a Fforwm Mynediad Torfaen weithio gyda’i gilydd.

Meddai Jon Clarke, sylfaenydd Hwb Cymunedol Coedwedd: "Mae ein grŵp wedi mwynhau bod yn rhan o’r ymdrech i lanhau Pont-y-pŵl a defnyddio’n sgiliau i greu potiau planhigion wedi'u gwneud â llaw. Mae'n enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith, gyda phob un yn gweithio gyda'i gilydd i wella’n hardal leol.

"Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael rhagor o drigolion i gymryd rhan wrth i ni greu mwy, ac rydyn ni’n ddiolchgar i Gyngor Torfaen am ei gefnogaeth barhaus."

Meddai Tulisa, sy’n 14 oed, a helpodd i beintio’r murlun ochr yn ochr â'r artistiaid Kaci Purnell ac Elaine Moore: "Dw i wedi mwynhau dysgu sut i beintio mewn manylder, ac rwy’n dwlu ar y ffaith ein bod ni’n gwneud i Bont-y-pŵl edrych yn well i bawb".

Ychwanegodd Amelia, sy’n 14 oed: "Mae wedi bod yn rhywbeth difyr iawn i'w wneud dros y penwythnos. Mae'n wahanol i'r hyn dw i'n ei wneud fel arfer. Rwy’n dwlu ar ba mor ddisglair yw popeth ac mae ni sydd wedi ei wneud!"

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, a ddadorchuddiodd furlun newydd ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn rhan o raglen ehangach Trefi Gyda'i Gilydd: "Mae'n wych gweld cymaint o bobl leol, grwpiau cymunedol, busnesau a phobl ifanc yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym Mhont-y-pŵl.

"O'r potiau planhigion newydd i'r gwaith celf lliwgar, mae'r prosiectau hyn yn helpu i greu canol tref mwy croesawgar a bywiog y gall pawb ymfalchïo ynddo.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser, eu sgiliau a'u brwdfrydedd i gefnogi'r gwaith hwn, ac edrychaf ymlaen at weld y rhaglen Trefi Gyda'i Gilydd yn parhau i dyfu."

Mae'r murlun a ddadorchuddiwyd ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl yn rhan o lwybr murluniau newydd Y Golau yn ein Dwylo sy'n cysylltu trefi yn Nhorfaen a Blaenau Gwent. Darllenwch am y llwybr murluniau.

Bydd diwrnod torchi llewys nesaf Trefi Gyda'i Gilydd yn cael ei gynnal ym Mlaenafon, ac mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn chwilio am awgrymiadau ar gyfer pa strydoedd y dylid canolbwyntio arnynt. Gall trigolion rannu eu syniadau trwy lenwi’r holiadur ar-lein. Llenwi holiadur Blaenafon