Llwybr murluniau Y Golau Yn Ein Dwylo

 Three people standing in front of a colourful Pontypool Market mural featuring local landmarks, market architecture and the Welsh text "Marchnad Pont-y-pŵl", with sunrise-style artwork in the background.

Mae celf gyhoeddus yn cael ei chreu fel rhan o lwybr murluniau newydd sy'n dathlu'r gorffennol, presennol a dyfodol yr ardal.

Bydd llwybr Y Golau yn Ein Dwylo ar draws Torfaen a Blaenau Gwent yn cynnwys amrywiaeth o furluniau proffesiynol a rhan a arweinir gan y gymuned, pob un yn cynnwys symbolau o arweiniad, cynhesrwydd, gobaith a sut mae treftadaeth leol yn cael ei ddwyn ymlaen a'i rhannu.

Mae'r gwaith celf cyntaf a gynlluniwyd ar gyfer Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl wedi'i gwblhau gan yr artist Danielle Farringdon ac mae disgwyl i'r ail un - a ddyluniwyd gan ArtREGEN Pont-y-pŵl ac aelodau'r cyhoedd, gael ei baentio yn ystod mis Medi.

Mae murlun awyr agored mawr wedi'i gynllunio ar gyfer Clarence Street, sydd hefyd dan arweiniad ArtREGEN Pont-y-pŵl, a bydd yn cyd-fynd â murlun y ddraig ym Maes Parcio Glan-yr-afon, a gomisiynwyd ganddynt yn gynharach eleni.

Mae dau furlun dan arweiniad y gymuned wedi'u cynllunio ar gyfer Blaenafon - un ar ochr busnes blodau newydd ac un arall ar gyfer Gwesty'r Castell.

Mae Llwybr y Golau yn ein Dwylo yn rhan o'r rhaglen Trefi Gyda'i Gilydd, gyda thimau'r cyngor, busnesau lleol, grwpiau cymunedol ac aelodau o'r cyhoedd yn gweithio gyda'i gilydd i wella ymddangosiad gweledol canol trefi.

Dywedodd y Cyng. Jo Gauden, Aelod Gweithredol Torfaen dros Adfywio: "Mae Torfaen a Blaenau Gwent yn rhannu hanes diwydiannol a chymdeithasol pwerus. Mae'r llwybr murluniau’n enghraifft wych o'r ymgysylltiad lleol sy'n nodweddiadol o Fargen Torfaen, gyda'n timau'n gweithio i nodi lleoliadau a chyllid addas, a busnesau lleol a grwpiau cymunedol yn helpu i ddylunio ac, mewn rhai achosion, paentio'r gwaith celf.

"Mae enghreifftiau blaenorol ym Mlaenau Gwent wedi dangos bod celf gyhoeddus am ddim i brofi nid yn unig yn gwella golwg a theimlad canol trefi, ond maent hefyd yn denu ymwelwyr, yn creu sgyrsiau ac yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein strydoedd.

"Trwy gysylltu'r gwaith celf ar draws y ddwy fwrdeistref, rydym yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau dilyn y llwybr, dysgu mwy am ardaloedd lleol a chael ymdeimlad o falchder yn ein bwrdeistrefi."

Ychwanegodd Mary James, arweinydd prosiect ArtREGEN Pont-y-pŵl: "Ein gweledigaeth yw creu murlun cymunedol bywiog sy'n gynnes, yn groesawgar ac yn dathlu ysbryd unigryw Marchnad Pont-y-pŵl. Bydd yn dal yr ymdeimlad cryf o berthyn sy'n gwneud y farchnad yn galon y dref, lle mae pobl yn dod at ei gilydd fel un gymuned ac un teulu."

Gallwch ddysgu mwy am y llwybr - ac ychwanegu eich hoff enghreifftiau o gelf gyhoeddus yn y fwrdeistref - drwy ymweld â thudalen llwybr murluniau Cymryd Rhan Torfaen (LINK). Mae murluniau Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl wedi'u hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau glanhau yng nghanol trefi, a diwrnodau gweithredu cymunedol hefyd yn cael eu cynnal yn yr hydref fel rhan o'r rhaglen Trefi Gyda'i Gilydd.

Bydd y digwyddiad cyntaf, a ohiriwyd oherwydd mwg tanau gwyllt, nawr yn cael ei gynnal ym Mhont-y-pŵl ddydd Gwener, 25 Medi a dydd Sadwrn, 26 Medi gyda diwrnodau gweithredu ym

Mlaenafon ym mis Hydref. I gymryd rhan ac i ddweud wrthym ba strydoedd ym Mlaenafon ddylai gael eu targedu, ewch i Caru Blaenafon: Trefi Gyda'I Gilydd | Cymerwch Ran Torfaen (yn agor mewn tab newydd).

Fel rhan o'r rhaglen Trefi Gyda’i Gilydd, mae arosfannau bysiau ar draws ardal y fwrdeistref hefyd yn cael eu glanhau, gyda bwriad o fod rhai yn dangos lluniau o nodweddion lleol.