Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n ailgylchu papur

Blue recycling bag containing paper and carboard

O ddydd Llun 30 Tachwedd, bydd trigolion yn gallu ailgylchu papur a chardfwrdd gyda'i gilydd yn eu bag ailgylchu glas.

Ar hyn o bryd, rhaid rhoi papur mewn bag a'i roi yn y bocs du gyda gwydr a thecstilau.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Rydyn ni’n disgwyl i'r newid hwn gael ei groesawu gan lawer o drigolion, gan ei gwneud yn haws i ailgylchu papur, ac yn fwy cyfleus.

"Trwy ganiatáu i bapur a chardfwrdd gael eu hailgylchu gyda'i gilydd yn y bag glas, rydyn ni’n gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o drigolion yn ailgylchu cymaint â phosibl.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i wella ein gwasanaethau ailgylchu drwy’r amser, a’n buddsoddiad mawr nesaf yw datblygu cyfleuster trosglwyddo ailgylchu ym Mlaenafon, gan helpu i ddiogelu’r gwasanaeth am flynyddoedd i ddod a’i baratoi at y dyfodol."

Er mwyn helpu trigolion i baratoi at y newid, gall unrhyw un sy'n meddwl y gallai fod angen bag ailgylchu glas ychwanegol arnynt, godi un o hwb casglu cynwysyddion ailgylchu’r Cyngor.

Er mwyn helpu i atal llanast, dylid rhoi papur wedi'i rwygo mewn bocs cardfwrdd fel bocs grawnfwyd neu ei roi mewn bag papur cyn ei roi yn y bag glas.

Bydd y diwrnodau casglu yr un peth ag arfer.

Rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Nhorfaen