Tai Cymdeithasol

Os ydych yn chwilio am dai cymdeithasol yn Nhorfaen, gallwch gofrestru ar gofrestr Homeseeker (yn agor mewn tab newydd).

Mae'r gwasanaeth yn eich galluogi i wneud cais am eiddo tai cymdeithasol yn Nhorfaen.

Mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i gofrestru a gwneud cais am eiddo ar gael ar wefan Homeseeker .

Nid yw Cyngor Torfaen bellach yn berchen ar unrhyw eiddo. Y Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yw:

Mae prinder tai fforddiadwy yn genedlaethol, felly mae'r galw am dai cymdeithasol yn Nhorfaen yn eithriadol o uchel, gydag ymgeiswyr yn aros sawl blwyddyn i gael eu hailgartrefu drwy gynllun Homeseeker.

Defnyddiwch ein hofferyn rhyngweithiol i weld pa stoc sydd ar gael a sawl eiddo a ddyrannwyd (yn agor mewn tab newydd) yn Nhorfaen.

Os ydych eisoes yn denant tai cymdeithasol ac yn dymuno symud eiddo, mae HomeSwapper (yn agor mewn tab newydd) yn wasanaeth cyfnewid ar y cyd i drigolion gyfnewid cartrefi yn lleol ac yn genedlaethol.

Gallwch hefyd archwilio opsiynau tai eraill gan ddefnyddio safle Dewin Opsiynau Tai (yn agor mewn tab newydd).

Dweud am broblem gydag eiddo cymdeithas tai (yn agor mewn tab newydd)