Beth yw Help2Own Plus?

Os ydych yn gweithio ond angen help i brynu neu rentu eich cartref eich hun, gall y cynllun Help2Own Plus helpu.

Mae'r bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol yn cynnig yr opsiynau ecwiti a rennir fel a ganlyn:

Rhentu

Mae rhenti Help2Own Plus yn costio llai na rhenti preifat ond maent ychydig yn ddrutach na rhenti tai cymdeithasol.

I wneud cais, rhaid bod ymgeiswyr yn gweithio ac yn ennill rhwng £15,000-£40,000, naill ai'n unigol neu fel incwm ar y cyd. Bydd angen i chi dalu mis o rent ymlaen llaw ac efallai y bydd angen blaendal arnoch.

Perchentyaeth â Chymorth – Adeiladau Newydd

Bydd gofyn i chi godi morgais am 70% o werth yr eiddo heb orfod talu unrhyw rhent.

Rhanberchenogaeth – Adeiladau Newydd

Fe’i gelwir hefyd yn 'prynu/rhentu’n rhannol'. Bydd yr opsiwn hwn fel arfer yn cynnig morgais o 50% a 50% rhent. Gall perchnogion brynu'r gyfran sy'n weddill o'u cartref pan fyddant yn gallu gwneud hynny.

Perchentyaeth â Chymorth – Dewis Eich Hun

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i helpu rhai pobl i brynu eiddo. Bydd angen morgais gwerth 70% arnoch.

Help2Own Plus – i fod yn gymwys

Mae'n rhaid i chi fod:

  • Dros 18 oed
  • Yn gallu cael morgais (Cynlluniau perchentyaeth)
  • Methu fforddio cyfraddau’r farchnad ar hyn o bryd (Cynlluniau perchentyaeth)

Bydd angen rhywfaint o gynilion arnoch ar gyfer y costau sy'n gysylltiedig â phrynu eiddo, e.e. ffioedd cyfreithiwr, symud ac ati, ynghyd â hyd at £1000 i dalu am gostau gweinyddol.

Cofrestru ar gyfer cynllun Help2Own Plus (yn agor mewn tab newydd)

Os oes angen ffurflen gais arnoch drwy e-bost neu’r post, cysylltwch â thîm Help2Own.

Pan fydd y cais wedi'i dderbyn, anfonir llythyr atoch yn cynnwys eich rhif cofrestru unigryw.

Pan fydd eiddo'n dod ar gael, bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (TCC) enwebedig yn cysylltu â chi i roi cyngor ar eiddo sydd ar gael/cyllid, yn dibynnu ar eich dewis a'r lefel fforddiadwyedd.

Cysylltwch â thîm Help2Own os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol neu eich aelwyd.