Gwybodaeth i Landlordiaid

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi newid y ffordd y mae landlordiaid yn rhentu eu heiddo.

Dyma’r prif newidiadau i landlordiaid

  • Mae yna ddau fath o gontract: contract diogel ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol a chontract safonol ar gyfer y sector rhentu preifat..
  • Rhaid i landlordiaid sicrhau bod eu heiddo yn addas i fyw ynddynt (FFHH). Mae hyn yn cynnwys gosod larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid sy’n gweithio yn yr eiddo, a chynnal profion diogelwch trydanol..
  • Gellir adfeddiannu eiddo segur heb fod angen gorchymyn llys.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd) i gael mwy o wybodaeth.

Rhentu Doeth Cymru

Mae’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord preifat gofrestru ei hun a’i eiddo. Rhaid i landlordiaid ac asiantau sy’n gosod eiddo ac yn rheoli eiddo gael trwydded hefyd.

Mae’n drosedd i beidio â chofrestru ac mae landlordiaid yn gallu wynebu dirwyon. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Cyngor Torfaen, yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i adnabod y rheiny nad ydynt dal i fod yn cydymffurfio â’r ddeddf. Mae cynghorau’n erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio..

Os ydych chi’n denant ac am wybod a yw eich landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld Cofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru ar lein (yn agor mewn tab newydd). Os nad yw wedi cofrestru, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru.

I gael mwy o wybodaeth ewch i rhentudoeth.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd) neu ffoniwch 03000 133344.

I gael mwy o wybodaeth am gyflwr eiddo sy’n cael ei rentu’n breifat yn Nhorfaen, cysylltwch â Thîm Diogelwch Tai a Diogelu’r Amgylchedd.

Ymweliadau Mewnfudo

Beth fydd y Cyngor yn ei wneud os byddwch yn gofyn am Ymweliad Mewnfudo?

Os ydych yn gofyn i'r Cyngor asesu eich cartref ar gyfer cais mewnfudo, bydd angen tystiolaeth arnom fod gennych lety addas yn y Deyrnas Unedig. Rhaid i'r dystiolaeth hon ddangos nad oes gan yr eiddo rydych yn bwriadu ei feddiannu unrhyw beryglon categori un ac na fydd yn dod yn orlawn pan fyddwch yn byw yno. Bydd Uchel Gomisiynau Prydain mewn gwahanol wledydd yn derbyn tystiolaeth gan syrfëwr preifat neu'r awdurdod lleol.

Yr hyn yr ydym ei angen gennych chi

Rhaid i ni weld y cais gan yr Uchel Gomisiwn perthnasol i'n galluogi i gadarnhau enw'r person sy'n dod i mewn i'r wlad a'r cyfeiriad y mae'n bwriadu ei feddiannu. Mae hefyd yn bwysig bod y cais yn dangos cyfeirnod yr Uchel Gomisiwn gan fod angen hwn arnom ar gyfer unrhyw ohebiaeth.

Yr hyn y byddwn ni’n ei wneud i chi

Ar ôl derbyn cais yr Uchel Gomisiwn bydd y Cyngor yn anfon anfoneb atoch am £98.75 + TAW (2 ystafell wely) / £120.85 + TAW (3 ystafell wely) / £142.90 + TAW (4 ystafell wely) / £22.00 + TAW (fesul ystafell wely ychwanegol) i dalu cost y gwasanaeth hwn. Ar ôl derbyn prawf o dâl bydd y Cyngor yn trefnu apwyntiad i arolygu'r eiddo. Fel arfer, bydd hyn o fewn 10 diwrnod gwaith.

Yn dilyn yr arolygiad, bydd y Cyngor yn rhoi adroddiad o'r eiddo i Uchel Gomisiwn Prydain, a bydd copi yn cael ei anfon at y noddwr, ac eto bydd hyn fel arfer o fewn 10 diwrnod.

System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai

Mae'r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) yn gwerthuso diogelwch adeiladau. Cafodd ei chyflwyno yn lle'r Safon Cymhwyster Tai ac mae'n asesu'r peryglon a allai effeithio ar iechyd, diogelwch a lles y preswylwyr a'u hymwelwyr.

Gall tai o ansawdd gwael effeithio ar bobl yn gorfforol, yn gymdeithasol neu'n emosiynol. Gall problemau fel bod yn rhy oer, achosi mwy o heintiau, asthma a salwch resbiradol eraill. Gall cartrefi hefyd fod yn beryglus, gydag anafiadau yn deillio o gwympiadau, peryglon trydan, tân a damweiniau eraill.

Mae'r effaith ar lesiant yn amrywio o iselder i eithrio cymdeithasol. Mae’r HHSRS yn nodi unrhyw effeithiau iechyd, diogelwch a lles mewn adeiladau a ddefnyddir ar gyfer amlfeddiannaeth. Rhoddir gradd i adeiladau, a bydd y Cyngor yn cymryd camau ffurfiol os nad yw’r safonau angenrheidiol yn cael eu bodloni.

Ydych chi eisiau gwybod mwy?

Gallwch lawr lwytho taflen System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (yn agor mewn tab newydd) neu Canllaw HHSRS i landlordiaid (yn agor mewn tab newydd)

I gael gwybodaeth am arall damweiniau yn y cartref ewch i wefan RoSPA (yn agor mewn tab newydd).