Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae cynllun les y Cyngor yn helpu i ddarparu mwy o gartrefi ar gyfer y rheiny sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Os ydych chi'n landlord, gallwch roi’ch eiddo ar les i’r Cyngor. Byddwn yn ei ddefnyddio i ddarparu cartrefi ar gyfer pobl sengl, cyplau a theuluoedd.

Yr hyn rydych chi'n ei gael

Os ydych chi’n ymuno â'r cynllun:

  • rydych chi'n cael gwarant o daliad les misol
  • mae'r Cyngor yn rheoli'r eiddo am gyfnod llawn y les
  • rydym yn eich talu bob 3 mis ymlaen llaw trwy drosglwyddiad banc

Taliadau les

Mae'r les yn para am 5 mlynedd. Mae’r taliad ar gyfer y les yn aros yr un faint am gyfnod llawn y les.

Ffioedd ar gyfer les
Maint yr eiddoTaliad les misol
1 ystafell wely£666
2 ystafell wely£737
3 ystafell wely£796

Ar ddiwedd y les

Ar ddiwedd y les 5-mlynedd, byddwn yn dychwelyd yr eiddo i chi yn yr un cyflwr, ar wahân i dreulio arferol.

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Adran Tai.