Dywedwch wrthym fod rhywun wedi marw
Defnyddiwch y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith
Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth sy’n eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth i’r rhan fwyaf i o wasanaethau’r llywodraeth ar un tro, yn cynnwys y Dreth Gyngor.
Unwaith y byddwch chi’n cofrestru’r farwolaeth, bydd y cofrestryddion yn rhoi rhif cyfeirnod a chyfarwyddiadau i chi ar sut i ddefnyddio'r gwasanaeth.
Os ydych wedi defnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith, byddwn yn cael gwybod heb i chi gysylltu â ni'n uniongyrchol.
Dywedwch wrthym drwy e-bost
Os ydych wedi dewis peidio â defnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, gallwch roi gwybod i ni am farwolaeth drwy e-bost yn revenues@torfaen.gov.uk.
Mae angen i chi roi gwybod y canlynol i ni:
- enw'r person a fu farw a'r dyddiad y bu farw
- y cyfeiriad lle roedden nhw'n byw
- oes angen disgownt i un preswylydd nawr
- a oeddent yn berchen ar yr eiddo yr oeddent yn byw ynddo
Os oedd y person a fu farw yn dalwr Dreth Gyngor, bydd hefyd angen enw a chyfeiriad y canlynol arnom:
- ysgutor/ysgutorion ewyllys y person a fu farw
- cyfreithiwr penodedig os ydych am i ni ddelio yn uniongyrchol â chyfreithiwr
Os ydych bellach yn unig feddiannydd
Pan oedd 2 oedolyn yn byw yn yr eiddo yn flaenorol, gallai'r Dreth Gyngor fod wedi bod yn y ddau enw neu yn enw un o'r preswylwyr.
Os ydych wedi rhoi gwybod i ni fod rhywun wedi marw ac mae hyn yn eich gadael fel unig feddiannydd, byddwn yn trosglwyddo'r cyfrif i'ch enw ac yn rhoi gostyngiad o 25% i chi.
Os oes 2 neu fwy o oedolion bellach yn byw yn yr eiddo
Pan fydd rhywun wedi marw ac mae’n golygu bod mwy na 2 oedolyn yn byw mewn eiddo, byddwn yn trosglwyddo'r Dreth Gyngor i enw'r perchennog, y meddianwyr neu'r cyd-denantiaid sydd ar ôl.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni fod rhywun wedi marw a rhoi eich manylion i ni fel y gallwn wneud y newidiadau hynny.
Os ydych wedi bod yn hawlio Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
Os ydych chi wedi bod yn hawlio Gostyngiad yn y Dreth Gyngor fel cwpl, efallai y bydd yn rhaid i chi hawlio o’r newydd ar gyfer eich hun.
Gwneud cais newydd am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor (yn agor mewn tab newydd)Os yw'r eiddo yn cael ei adael yn wag ar ôl i rywun farw
Mae eiddo gwag wedi'i eithrio os yw’r cyfrifoldeb am y Dreth Gyngor yn disgyn i ystâd y person a fu farw. Os oedd y person a fu farw yn berchen ar yr eiddo ac yn byw yno ar ei ben neu ei phen ei hun, mae'r eiddo wedi'i eithrio rhag taliadau'r Dreth Gyngor cyhyd â'i fod yn parhau i fod yn wag a hyd nes y rhoddir profiant. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi dalu'r Dreth Gyngor am y cyfnod hwnnw.
Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys os:
- oes cydberchennog neu denant gan yr eiddo
- mae’r eiddo wedi ei drosglwyddo’n uniongyrchol i fuddiolwyr
- nid oeddent yn berchen ar yr eiddo yr oeddent yn byw ynddo
Bydd yr esemptiad yn dod i ben os yw'r eiddo:
- yn cael ei feddiannu (oni bai bod hynny dros dro am lai na 6 wythnos)
- yn cael ei werthu
- yn cael ei rhentu (ail-rentu)
- heb ei werthu na’i ail-osod 6 mis ar ôl rhoi profiant/llythyrau gweinyddu
Os ydych chi'n landlord, ac mae eich eiddo yn cael ei adael yn wag ar ôl i denant farw, mae'r eiddo’n esempt o ddyddiad y farwolaeth tan y dyddiad y mae'r denantiaeth yn dod i ben.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw'r eiddo yn cael ei werthu, ei rentu neu ei feddiannu.
Gwneud cais am esemptiad
I wneud cais am yr esemptiad, bydd angen i chi e-bostio'r wybodaeth isod i revenues@torfaen.gov.uk:
- enw llawn y person sydd wedi marw
- dyddiad y farwolaeth
- manylion y cyfreithwyr/Ysgutor neu’r person sy’n delio â’r ystâd
Mae angen i ni hefyd gadarnhau a yw'r eiddo wedi'i ddodrefnu neu heb ei ddodrefnu ynghyd â'r dyddiad y tynnwyd unrhyw ddodrefn oddi yno, felly efallai y bydd angen trefnu ymweliad â'r eiddo.
Os yw'r eiddo yn cael ei werthu, ei rentu neu ei feddiannu
Os yw'r unig feddiannydd wedi marw, bydd angen i chi roi gwybod i ni pan fydd yr eiddo:
- wedi ei werthu
- wedi ei rhentu
- rhywun yn byw ynddo
Bydd angen i chi gysylltu â ni drwy e-bost yn revenues@torfaen.gov.uk i roi gwybod i ni am:
- y dyddiad cwblhau
- dyddiad dechrau’r denantiaeth
- dyddiad trosglwyddo i fuddiolwr neu ddyddiad meddiannu
- enw'r perchnogion neu'r meddianwyr newydd
Atebolrwydd y Dreth Gyngor ar gyfer ysgutorion
Beth mae ysgutor yn ei wneud
Ysgutorion yw'r bobl a benodir yn yr ewyllys i ddelio ag ystâd person sydd wedi marw. Pan roddir profiant, cyhoeddir dogfen i'r ysgutor gan roi'r awdurdod iddynt ddelio â'r ystâd.
Ar ôl i brofiant gael ei roi
Unwaith y rhoddir profiant neu Lythyrau Gweinyddu, rhaid i chi roi copi i ni.
Os yw perchnogaeth yr eiddo yn cael ei drosglwyddo
Ar ôl rhoi profiant, os yw perchnogaeth eiddo yn cael ei drosglwyddo i fuddiolwr yr ewyllys, mae unrhyw atebolrwydd am y Dreth Gyngor yn trosglwyddo i'r buddiolwr. Dylai'r buddiolwr roi eu manylion i ni drwy roi gwybod i ni fod yr eiddo wedi'i drosglwyddo iddynt.
Os yw'r eiddo yn parhau i fod o dan reolaeth yr ystâd
Ar ôl rhoi profiant, os yw'r eiddo yn aros o dan reolaeth yr ystâd am fwy na 6 mis, rhaid talu tâl Treth Gyngor llawn. Gall hyn fod am nad yw’r eiddo wedi'i werthu, ei rentu neu ei drosglwyddo i fuddiolwr yr ewyllys.
Ar ôl 6 mis, mae'r ysgutor yn gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor o ystâd y person a fu farw (nid yw'r ysgutor yn atebol am daliadau'r Dreth Gyngor). Os na all yr ysgutor wneud taliad am unrhyw reswm, dylent gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.
Ad-daliadau ar gyfrif y person a fu farw
Os ydych wedi cael bil sy'n dangos bod credyd ar gyfrif y person a fu farw, gall yr ysgutorion ofyn amdano a dylid ei gynnwys yn yr ystâd.
Os yw cyfreithwyr yn gweithredu fel ysgutorion
Gofynnwch i'r cyfreithwyr anfon e-bost i revenues@torfaen.gov.uk gyda chadarnhad o gyfrif yr ysgutor bod popeth ar waith iddynt dderbyn unrhyw arian sy'n ddyledus i'r ystâd.
Os nad oes cyfreithwyr
Os nad oes cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran yr ystâd, gall yr ysgutor ofyn am ad-daliad.
Bydd angen i chi ddarparu copi o dudalen gyntaf yr Ewyllys i gadarnhau mai chi yw'r unig ysgutor.
Os oes ysgutorion eraill, bydd angen i chi ddarparu cadarnhad wedi'i lofnodi gan bob un i gadarnhau eu bod yn cytuno i bwy y dylid talu'r credyd.
Cais am ad-daliad treth gyngor (yn agor mewn tab newydd)