Cael gwybod mwy am eich band treth y cyngor

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) sy'n cadw Rhestr Brisio Treth y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys gosod eiddo newydd o fewn band treth y cyngor a newid bandiau eiddo pan fydd angen.

I ddeall pam y mae eich eiddo mewn band penodol, ewch i dudalen Sut y caiff eiddo domestig ei asesu ar gyfer bandiau Treth y Cyngor (yn agor mewn tab newydd) ar GOV.UK.

Gallwch ofyn i’r ASB adolygu eich band treth y cyngor os credwch ei fod yn anghywir a’ch bod wedi bod yn drethdalwr am lai na chwe mis, neu os yw eich band wedi newid yn ystod y chwe mis diwethaf. Os nad yw hyn yn berthnasol gallwch barhau i ofyn i’r ASB adolygu eich band treth y cyngor, ond bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth gefnogol gref yn dangos pam eich bod yn credu bod eich eiddo yn y band anghywir.

Gallwch ganfod mwy trwy roi clic ar dudalen Herio eich Band Treth y Cyngor (yn agor mewn tab newydd) ar GOV.UK. Mae'r gwasanaeth ar-lein yn caniatáu ichi wirio'ch band a chyflwyno her os ydych chi'n meddwl y gallai'ch band fod yn anghywir.

Gallwch gysylltu â’r ASB ar gov.uk/contact-voa (yn agor mewn tab newydd). Os nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein gallwch hefyd gysylltu â nhw drwy ysgrifennu at Valuation Office Agency, Durham Customer Service Centre, Wycliffe House, Green Lane, Durham, DH1 3UW

Bydd swm treth y cyngor y byddwch yn ei dalu am eiddo yn dibynnu ar y band prisio a bennwyd ar gyfer eich eiddo.

Taliadau'r dreth gyngor 2026/2027

CwmbrânPont-y-pŵlBlaenafonHenllysCroesy a LlanyPonthir
Band A1434.601438.201476.761422.561428.361424.64
Band B1673.701677.901722.901659.671666.431662.09
Band C1912.791917.591969.011896.751904.481899.52
Band D2151.902157.302215.152133.852142.552136.97
Band E2630.102636.702707.402608.032618.672611.85
Band F3108.303116.103199.663082.233094.803086.74
Band G3586.503595.503691.913556.413570.913561.61
Band H4303.804314.604430.304267.704285.104273.94
Band I5021.105033.705168.694978.994999.294986.27

Bandiau o 1 Ebrill 2005

Bandiau o 1 Ebrill 2005
BandGwerth yr Eiddo
Ahyd at £44,000
B£44,001 hyd at £65,000
C£65,001 hyd at £91,000
D£91,001 hyd at £123,000
E£123,001 hyd at £162,000
F£162,001 hyd at £223,000
G£223,001 hyd at £324,000
H£324,001 hyd at £424,000
I£424,001 ac uwch
Mae'r gwerthoedd eiddo wedi'u seilio ar Brisiad 2003