Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn Nhorfaen

Mae’r gamlas yn cael ei hystyried yn un o’r dyfrffyrdd mwyaf hardd yn y DU. Mae’n cynnwys 35 milltir o gamlas y mae modd teithio ar ei hyd o Aberhonddu i Fasn Pum Loc yng Nghwmbrân, 7 milltir bellach o gamlas nad oes modd teithio arni i Gasnewydd ar y brif linell, a 7 milltir i Gwmcarn ar gangen Crymlyn.

Mae’r darn gogleddol yn eiddo i ac yn cael ei reoli gan ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru, tra bod y darn i’r de o Bont-y-pŵl yn eiddo i'r awdurdodau lleol perthnasol - Torfaen, Casnewydd, a Chaerffili.

Ymweld â’r gamlas

Mae modd mynd at y gamlas ar droed neu ar feic.

Am wybodaeth am lwybrau cerdded a seiclo, meinciau a thoiledau, ewch i Data Map Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Mae parcio am ddim ar gael wrth Fasn Pont-y-moel (amserau agor yn amrywio), Basn Pum Loc a Maes Parcio Brynhyfryd (dim cyfyngiadau).

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd).

Am wybodaeth am bysgota ar y gamlas, cysylltwch â Brian Evans o Gymdeithas Bysgota Cwmbrân trwy 01633 873426 neu BrianEvans08@aol.com

Gwirfoddoli ar y Gamlas

Tasglu Pont-y-moel

Mae Hannah Cubie, Cydlynydd Cysylltiadau Cymunedol ar ran yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, yn trefnu grŵp sy’n ymgymryd â thasgau i ofalu am Fasn Pont-y-Moel a llwybr halio’r gamlas. Cysylltwch â Hannah trwy hannah.cubie@canalrivertrust.org.uk.

Grŵp Camlas Pont 46 i Bum Loc

Mae’r grŵp yn cynnal gweithdy gwirfoddolwyr unwaith y mis, fel arfer ar fore Sul. Maen nhw hefyd yn trefnu digwyddiadau i ddathlu’r gamlas a dangos ei gwerth, yn ogystal ag ymgyrchu dros y gamlas trwy gydol y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook Grŵp Camlas Pont 46 i Bum Loc (yn agor mewn tab newydd)

Grŵp gwirfoddolwyr Camlas Torfaen

Gwirfoddolwyr sy’n cyfarfod pob mis i godi sbwriel a rheoli tyfiant, fel arfer ar ddydd Sul. Cysylltwch â’r ysgrifennydd, Hugh Woodford trwy heatherhugh@hotmail.com.

Ymddiriedolaeth Camlas Sir Fynwy, Aberhonddu a’r Fenni

Mae’r grŵp yn cyfarfod fel arfer ar ddydd Sadwrn ac mae tasgau’n cynnwys rheolaeth cynefinoedd a chynnal a chadw’r lociau sydd wedi eu hadfer yn Nhŷ Coch. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://mbact.org.uk/volunteering-opportunities (yn agor mewn tab newydd)

Trysor Torfaen

Mae Cydlynydd Camlas y cyngor yn gyfrifol am oruchwylio strategaeth 10 mlynedd y cyngor i warchod a gwella’r gamlas yn Nhorfaen.

Mae tri cham i’r cynllun:

  • Adeiladau’r sylfeini 2024-2026: Mae’r gamlas yn cael ei datblygu i ddenu mwy o ymwelwyr a sicrheir bod cyflenwad dŵr cynaliadwy.
  • Symud tuag at adferiad 2026-2029: Mae’r gamlas wedi cael ei hailsefydlu hyd at Mount Pleasant Road, Cwmbrân.
  • Symud tuag at gyrraedd canol y dref 2029-2034: Ailsefydlir y gamlas i gyrchfan newydd yng Nghanol Tref Cwmbrân

Mae’r strategaeth yn cael ei chefnogi gan gynllun gweithredu sy’n canolbwyntio ar bum prif faes gwaith:

  • Cynnal a Chadw a Rheolaeth Gynaliadwy
  • Datblygiad Cyrchfannau, Hamdden a Theithio
  • Cymuned a Phartneriaeth
  • Treftadaeth Gydnerth
  • Cyflawni Adferiad y Gamlas i Ganol Tref Cwmbrân

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch â Chydlynydd y Gamlas.

Galw Torfaen