Mae gan Dorfaen nifer o amgueddfeydd ac orielau y gallwch ymweld â hwy trwy gydol y flwyddyn. Mae Torfaen yn ymfalchïo mewn amrywiaeth o atyniadau treftadaeth gan gynnwys gwaith haearn o'r 18fed ganrif gyda bythynnod cadwedig a oedd unwaith yn gartrefi i weithwyr haearn, ond sydd erbyn hyn wedi cael eu dodrefnu i ddarlunio amseroedd a fu ; Pwll Mawr Amgueddfa Lofaol Cymru sydd wedi ennill gwobrwyon, lle gall ymwelwyr gael profiad uniongyrchol o sut oedd bywyd i genedlaethau o lowyr; Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange sef prif leoliad arddangos celfyddydau gweledol a chrefftau yn Ne Ddwyrain Cymru; i Amgueddfa Pont-y-pŵl, ein hamgueddfa sir lle gallwch weld hanes Torfaen.
Isod gallwch ddod o hyd i ganllaw byr i bob un o'r prif amgueddfeydd ac orielau, gyda'u hamseroedd agor a phrisiau mynediad, a dolen i'w gwefan.