Mae disgwyl i lifogydd gynyddu yn y DU wrth i newid yn yr hinsawdd ddod â thywydd cynhesach, gwlypach.

Mae sawl sefydliad yn ymwneud â rheoli’r perygl o lifogydd yng Nghymru.

Fel prif awdurdodau llifogydd, rhaid i gynghorau ddatblygu Strategaeth Perygl Llifogydd Lleol a gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Rhaid i brif awdurdodau llifogydd hefyd:

  • Gadw cofrestr o asedau a allai arwain at lifogydd
  • Ymchwilio i ddigwyddiadau llifogydd
  • Hyrwyddo datblygu cynaliadwy
  • Rheoleiddio gwaith ger cyrsiau dŵr cyffredin

Y darlun cenedlaethol

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr Llywodraeth y DU yn amlinellu strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.

Mae'n amlinellu rolau gwahanol awdurdodau, gan gynnwys cynghorau lleol, ochr yn ochr â Strategaeth Llywodraeth Cymru ar Reoli’r Perygl o Lifogydd ac Erydu Arfordirol.

Mae hefyd yn cynnwys gofyniad i gynghorau lleol oruchwylio Canllawiau Statudol Draenio Cynaliadwy ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd dros 100 metr sgwâr.

Strategaeth Perygl Llifogydd Lleol 2024-2030

Mae'r strategaeth yn nodi sut mae cynlluniau'r cyngor yn paratoi ar gyfer peryglon llifogydd lleol sy'n digwydd yn sgil:

  • Dwr sy’n llifo oddi ar yr wyneb
  • Dŵr daear
  • Cyrsiau dŵr cyffredin ee nentydd, ffosydd, draeniau a chwlferi

Mae'n egluro pa sefydliad sy'n gyfrifol am atal a rheoli llifogydd, pa fesurau sydd angen eu cymryd i leihau'r perygl o lifogydd, sut mae gwaith yn cael ei flaenoriaethu a beth y gall cymunedau ei wneud.

Mae Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur (yn agor mewn tab newydd) y cyngor yn nodi pa gamau lliniaru sydd eu hangen i leihau effaith newid yn yr hinsawdd, fel mwy o lifogydd.

Galw Torfaen