Mae rhwydwaith llifogydd cymunedol yn grŵp gwirfoddol o bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella gwytnwch eu cymuned leol i lifogydd.

Rydym yn treialu rhwydwaith llifogydd cymunedol gyda Chyngor Cymuned Ponthir ac yn gobeithio gweithio gyda grwpiau cymunedol eraill yn y dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â sab@torfaen.gov.uk (yn agor mewn tab newydd)

Beth all rhwydweithiau llifogydd cymunedol ei wneud i leihau'r risg o lifogydd, a chefnogi trigolion a busnesau os bydd llifogydd?

  • Addysgu trigolion a busnesau am y perygl o lifogydd lleol a sut i'w lliniaru
  • Datblygu cynllun llifogydd lleol i gydlynu ymatebion
  • Cydweithio gydag awdurdodau lleol, gan gynnwys y cyngor, y gwasanaethau brys a Dŵr Cymru Welsh Water
  • Cefnogi cartrefi a busnesau os bydd llifogydd, yn enwedig trigolion bregus e.e. dosbarthu bagiau tywod, helpu pobl i ddianc o’u heiddo, rhoi cymorth ar ôl llifogydd

Galw Torfaen