Deddfwriaeth Hapchwarae
Cafodd y Ddeddf Hapchwarae sêl bendith y Senedd ym mis Ebrill 2005 ac fe gyflwynodd newidiadau mawr i'r ffordd y caiff hapchwarae ei drwyddedu ym Mhrydain Fawr. Roedd y Ddeddf yn sefydlu Comisiwn Hapchwarae i reoleiddio'r mathau o gyfleusterau hapchwarae a gynigir a'r bobl a'r sefydliadau sy'n eu cynnig.
Hefyd, rhoddodd bwerau newydd i awdurdodau trwyddedu sydd eisoes yn gyfrifol am roi Deddf Trwyddedu 2003 ar waith.
Mae Torfaen yn gyfrifol am fonitro a gorfodi'r holl Drwyddedau y mae'n eu cyflwyno, yn unol â'r tri Amcan Trwyddedu isod:-
- Atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell troseddu neu anhrefn, bod yn gysylltiedig â throseddu neu anhrefn, neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu;
- Sicrhau bod hapchwarae yn cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored; a
- Diogelu plant a phobl eraill sy'n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan hapchwarae.
Cyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu
Mae’n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn ei rôl fel yr Awdurdod Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005, baratoi a chyhoeddi datganiad o’r egwyddorion y mae’n bwriadu eu defnyddio wrth arfer ei swyddogaethau dan y Ddeddf yn ystod pob cyfnod olynol o dair blynedd, yn ystod y cyfnod hwnnw.
Hysbysir drwy hyn, ar 22 Hydref 2024, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, drwy arfer ei bwerau o dan Ddeddf Gamblo 2005, wedi cymeradwyo'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu. Y dyddiad cyhoeddi yw 16 Rhagfyr 2024 a bydd yn dod i rym ar 31 Ionawr 2025.
- Datganiad o Bolisi Trwyddedu (yn agor mewn tab newydd)pdf file[762KB]
Bydd y Datganiad o Bolisi Trwyddedu i'w weld yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB o’r dyddiad cyhoeddi, a hynny rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gwybodaeth am Ffïoedd
Mae rhestr o Ffïoedd Trwyddedu (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer trwyddedau yn Nhorfaen ar gael yma.
Gwneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau a dogfennau perthnasol drwy e-bost ar licensing@torfaen.gov.uk.
Rhaid cwblhau pob cais yn llawn a chynnwys rhif ffôn cyswllt. Unwaith y derbynnir y cais, cysylltir â'r ymgeisydd i drefnu taliad. Sylwch na fydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn ddilys hyd nes y derbynnir y taliad. Os oes angen cyflwyno cais wyneb yn wyneb, cysylltwch â'r tîm i drefnu apwyntiad.
Ffurflenni i wneud cais am Gamblo 2005 caniatadau a thrwyddedau ar gael yn (.doc) Fformat Word isod. Os nad yw'r ffurflen sydd ei hangen arnoch yma, cysylltwch â ni i ofyn iddo.
Trwyddedau Safleoedd
- Safle (Newid Trosiannol) (yn agor mewn tab newydd)
- Safle (Newydd) (yn agor mewn tab newydd)
- Trosglwyddo Safle (yn agor mewn tab newydd)
- Amrywio Trwydded Safle (yn agor mewn tab newydd)
- Safle - Hysbysiad o Gais (A) (yn agor mewn tab newydd)
- Safle - Hysbysiad o Gais (B) (yn agor mewn tab newydd)
- Hysbysiad Awdurdodau Cyfrifol (ar y cyd) (yn agor mewn tab newydd)
- Hysbysiad Awdurdodau Cyfrifol (unigol) (yn agor mewn tab newydd)
Datganiadau Dros Dro
- Datganiad Dros Dro (Safonol) (yn agor mewn tab newydd)
- Datganiad Dros Dro - Hysbysiad o Gais (A) (yn agor mewn tab newydd)
- Datganiad Dros Dro - Hysbysiad o Gais (B) (yn agor mewn tab newydd)
- Hysbysiad Dros Dro Awdurdodau Cyfrifol (ar y cyd) (yn agor mewn tab newydd)
- Hysbysiad Dros Dro Awdurdodau Cyfrifol (unigol) (yn agor mewn tab newydd)
Arall
- Ffurflen Hysbysiad Trosi/Newydd/Trosglwyddo ar gyfer 2 Beiriant Hapchwarae neu lai (yn agor mewn tab newydd)
- Ffurflen Drosi/Newydd/Newid Enw ar gyfer Hapchwarae â Gwobrau (yn agor mewn tab newydd)
- Ffurflen Drosi/Newydd/Newid Enw ar gyfer Canolfannau Adloniant Teuluol Didrwydded (yn agor mewn tab newydd)
Gwybodaeth i'r cyhoedd ac i fusnesau
Mae'r Comisiwn Gamblo wedi cyhoeddi'r canllawiau canlynol:
Canllawiau Penodol ar gyfer y Sector
- Arcedau (Canolfannau Adloniant Trwyddedig a Didrwydded i Deuluoedd a Chanolfannau Gemau i Oedolion) (yn agor mewn tab newydd)
- Betio (Siopau Betio, traciau, caeau ras a phŵls (pools), yn cynnwys betio go iawn a betio rhithiol) (yn agor mewn tab newydd)
- Bingo (yn agor mewn tab newydd)
- Gemau mewn clybiau a thrwyddedau peiriannau (yn agor mewn tab newydd)
- Loterïau / Rafflau (yn agor mewn tab newydd)
Tafarndai, Clybiau a safleoedd Didrwydded
- Pocer mewn tafarndai (yn agor mewn tab newydd)
- Pocer mewn clybiau (yn agor mewn tab newydd)
- Nosweithiau rasio, nosweithiau Casino a nosweithiau pocer i elusennau (yn agor mewn tab newydd)
- Bingo mewn lleoliadau preswyl a domestig, clybiau, tafarndai ayyb. (yn agor mewn tab newydd)
Amodau a Chodau Ymarfer
- Amodau Trwydded a Chodau Ymarfer (yn agor mewn tab newydd)
- Cod Ymarfer – Peiriannau Gemau mewn clybiau a lleoliadau â thrwydded alcohol (yn agor mewn tab newydd)
Dewiswch y ddolen berthnasol isod i weld yr Hysbysiad:
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen ar y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.