Gwneud cais am drwydded

Crynodeb o'r Drwydded

Mae Deddf Priffyrdd 1980, Adran 115 {fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982}, yn rhoi'r pŵer i'r Cyngor gyhoeddi trwyddedau ar gyfer "darparu, cynnal a gweithredu cyfleusterau ar gyfer lluniaeth ar y briffordd" - h.y. caffis ar y stryd.

Mae caffis ar y stryd yn ychwanegu at liw a naws trefi yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod y caffis hyn o safon dda a'u bod wedi'u cynllunio'n gywir, lle cânt eu sefydlu. Bydd y Cyngor yn barnu pob cais am drwydded yn ôl ei rinweddau unigol, gan ystyried ffactorau megis:

  • a yw'r lleoliad mewn ardal i gerddwyr yn unig ai peidio
  • faint o gerbydau a cherddwyr sy'n mynd heibio'r lleoliad hwnnw
  • lled y palmant
  • dodrefn stryd sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal
  • yr angen am sicrhau nad yw cerddwyr yn cael eu rhwystro rhag mynd heibio
  • yr angen am sicrhau nad oes rhwystr fyth i'r gwasanaethau brys

Mae'n rhaid i fusnes gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n werth £2 filiwn o leiaf, dangos parch dyledus i iechyd a diogelwch y cyhoedd a dangos gweithdrefnau cynnal a chadw da.

Am wybodaeth bellach, lawrlwythwch gopi o'r Arweiniad ar gyfer Trwydded Caffi ar y Stryd (yn agor mewn tab newydd) .

Meini Prawf Cymhwysedd

Bydd y Cyngor yn cyflwyno trwyddedau ar gyfer gosod byrddau a chadeiriau y tu allan i gaffis, tafarndai a safleoedd tebyg at ddiben gweini lluniaeth. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fusnesau ehangu mewn ffordd gost effeithiol, gan gynnig mwy o ddewis i gwsmeriaid.

Mae deddfwriaeth arall yn rheoli trwyddedu stondinau ar gyfer masnachu ar y stryd a safleoedd sy'n gwerthu alcohol, a chaiff hyn ei weinyddu ar wahân gan Is-adran Drwyddedu'r Cyngor. Felly, bydd angen i safleoedd sydd â thrwydded i werthu alcohol ac sydd hefyd yn dymuno rhoi byrddau a chadeiriau ar balmant neu ardal i gerddwyr yn unig y tu allan i safle wneud cais am drwydded ychwanegol, fel y'i nodir yn y polisi hwn.

Ffïoedd

Ar hyn o bryd, ni chodir tâl am wneud cais am drwydded caffi ar y stryd. Fodd bynnag, codir tâl blynyddol o £10 y bwrdd a £10 y gadair (codir tâl pro rata ar gyfer meinciau, yn ôl nifer y mannau eistedd), i dalu am gostau gweinyddu.

Proses Gwerthuso Cais

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i brosesu eich cais mor gyflym â phosibl. Oherwydd natur y drwydded hon a buddiant trydydd parti, ein nod yw rhoi trwyddedau o fewn 30 diwrnod gwaith o gyflwyno'r cais. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar dderbyn yr holl waith papur gofynnol. Mae trwyddedau caffis ar y stryd yn ddilys am 12 mis. Os ydych yn dymuno ymestyn y drwydded ar ôl y cyfnod 12 mis cychwynnol, mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n gallu gweithredu fel petai eich cais wedi'i gymeradwyo os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn 28 diwrnod o gyflwyno cais cyflawn.

Gwneud cais ar-lein

Os ydych chi'n dymuno gwneud cais am drwydded i ddarparu caderiau a byrddauar y briffordd (yn agor mewn tab newydd), gallwch lawrlwytho'r o'r fan hon.

Camau Unioni yn achos Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi trwydded iddo gyflwyno apêl i'w Lys Ynadon lleol.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded gyflwyno apêl i'w Lys Ynadon lleol.

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os ydych am wneud cwyn, byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r Adran berthnasol eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) yn rhoi cyngor i chi.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.