Os yw eich busnes bwyd yn gwneud, yn paratoi neu'n trafod bwyd sy'n deillio o anifeiliaid ac yn ei gyflenwi i safleoedd eraill (hyd yn oed rhai rydych chi'n berchen arnynt) fel rhan sylweddol o'ch busnes cyfan, gallai fod angen Cymeradwyaeth Ffurfiol arnoch yn hytrach na chofrestru'r safle bwyd gyda'r Cyngor. Os lladd-dŷ neu ffatri torri cig yw eich busnes, bydd angen i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ei gymeradwyo.

Mae Rheoliad Rhif 853/2004 y Gymuned Ewropeaidd yn mynnu bod gweithgynhyrchwyr bwydydd sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid, fel llaethdai, gweithgynhyrchwyr cynhyrchion cig neu farchnadoedd cyfanwerthu pysgod, yn cael cymeradwyaeth yr awdurdod lleol cyn iddynt ddechrau masnachu.

Mae cymeradwyaeth yn fath o 'drwydded' i unrhyw fusnes sy'n dymuno trafod, paratoi neu gynhyrchu bwydydd penodol, a rhaid rhoi cymeradwyaeth (naill ai'n llawn neu'n amodol) cyn i'r bwyd allu cael ei werthu. Rhaid i safleoedd cymeradwy fodloni safonau hylendid bwyd uchel a gwneud yn siwr eu bod yn gallu olrhain o ble y daeth eu holl gynhwysion, fel y gallant sicrhau bod eu bwyd yn ddiogel.

Rhaid i safleoedd sydd wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdod lleol arddangos nod iechyd hirgrwn ar eu cynhyrchion (neu gall tystysgrif hylendid gyd-fynd â bwydydd os ydynt yn mynd i ffatri fwyd arall). Yna, gall unrhyw un sy'n prynu bwyd, boed hynny o'r archfarchnad neu drwy ei swmp brynu ar gyfer eu busnes, weld bod y bwyd risg uchel y maent yn ei brynu yn cyrraedd safonau uchel o ran hylendid bwyd.

Mae gan bob Awdurdod Lleol yn y wlad (a mannau ar draws yr Undeb Ewropeaidd) god unigryw sy'n sicrhau bod modd sefydlu tarddiad y bwyd bob amser. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer sicrhau diogelwch bwydydd risg uchel, gan ei fod yn golygu bod modd olrhain y bwydydd risg uchel hyn yn ôl yn uniongyrchol i'r ffatrïoedd a'u cynhyrchodd.

Os hoffech wneud cais am gymeradwyaeth safle, mae'r ffurflenni cais a'r wybodaeth angenrheidiol i'w cael yn y fan hon.

Os oes gennych gŵyn am fwyd a brynoch oddi wrth fusnes bwyd, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf – mae'r rhan fwyaf o fusnesau bwyd yn barod i amnewid y bwyd neu roi ad-daliad i chi.

Rydym yn ymchwilio i gwynion ynghylch bwyd, a gallwn weithredu lle bo'r cwynion hynny wedi codi oherwydd hylendid bwyd gwael ac yn y blaen. Os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi hefyd.

Os ydych yn pryderu am fusnes bwyd ac yn amau nad yw wedi'i gymeradwyo fel sy'n ofynnol neu nad yw'n cael ei gynnal yn gywir ac yn hylan, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.

Beth yw bwyd sy'n deillio o anifeiliaid?

Mae bwyd sy'n deillio o anifeiliaid yn cynnwys:

  • cig a dofednod – ffres, wedi'u rhewi neu wedi'u coginio
  • cynhyrchion cig fel pasteiod, rholiau selsig, ffagots, pwdin gwaed a bacwn
  • briwgig neu baratoadau cig amrwd neu wedi'u coginio'n rhannol, fel selsig, byrgyrs, cig amrwd wedi'i farinadu a chig cebab
  • pysgod a chynhyrchion pysgod fel bysedd pysgod, corgimychiaid, cimychiaid, crancod a chimychiaid cochion - byw neu farw
  • molysgiaid dwygragennog byw
  • prydau parod sy'n cynnwys pysgod neu gig
  • llaeth a chynhyrchion llaeth fel menyn, hufen, caws, iogwrt a hufen iâ
  • malwod a choesau brogaod
  • brasterau anifail wedi'u toddi a sgil-gynhyrchion eraill o anifeiliaid, fel gelatin, colagen, stumogau, pledrennau a choluddion
  • mêl a gwaed

Os yw'r uchod yn berthnasol i chi, mae'n drosedd cychwyn unrhyw weithgarwch busnes bwyd oni bai eich bod wedi cael cymeradwyaeth amodol neu lawn gennym ni.

A oes unrhyw eithriadau?

Oes - mae eithriadau o dan rai amgylchiadau. Os yw eich busnes bwyd yn cyflenwi bwyd sy'n deillio o anifeiliaid yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf (y sawl fydd yn bwyta'r cynnyrch, neu arlwywr sy'n paratoi bwyd i'w weini i'r defnyddiwr olaf), nid oes angen cymeradwyaeth arnoch.

Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cwmnïau arlwyo, ffreuturiau, caffis, bwytai, siopau lleol ac ati.

Os yw eich safle yn cynhyrchu bwydydd sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n deillio o blanhigion a chynhyrchion wedi'u prosesu sy'n deillio o anifeiliaid, gallech gael eich eithrio hefyd. Yn ogystal, gall fod eithriad ar gael yn dibynnu ar i ba raddau y mae'r busnes yn dymuno cyflenwi bwyd sy'n deillio o anifeiliaid i fusnesau eraill.

Cysylltwch â'r Tîm Bwyd a Diogelwch i gael mwy o wybodaeth; gall y rheolau ynghylch eithriadau fod yn gymhleth!

Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych wedi'ch eithrio, bydd angen i chi gofrestru gyda'r cyngor a dilyn y rhan fwyaf o'r un rheolau hylendid.

Sut ydw i'n cael cymeradwyaeth?

Bydd angen i chi lenwi ffurflen fanwl a byddwch yn destun rheoliadau llymach gan fod eich busnes yn peri risg uwch oherwydd y math o fusnes bwyd sy'n cael ei redeg.

I gael cymeradwyaeth, bydd angen i chi gyrraedd safonau hylendid penodol a gyflwynir yn:

sydd ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae'n rhaid i'r cais gael ei ategu gan wybodaeth brosesu benodol yn ymwneud â diogelwch bwyd. Er enghraifft, bydd yn rhaid i chi roi gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith ar sail egwyddorion HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) (yn agor mewn tab newydd).

Ni fyddwn yn rhoi cymeradwyaeth oni bai bod eich busnes bwyd yn cyrraedd y safonau gofynnol.

A oes tâl?

Nac oes, ni chodir tâl ar gyfer y cais hwn.

Sut ydw i'n gwneud cais?

Byddem bob amser yn awgrymu eich bod yn siarad â'r Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch cyn gwneud cais, fel y gallwn roi gwybod i chi a oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth a'r safonau y bydd angen i'ch safle eu cyrraedd.

Os oes angen cymeradwyaeth ar eich safle bwyd, rhaid i chi wneud cais yn ysgrifenedig gan roi manylion llawn y busnes arfaethedig.

Application for approval of a food business establishment (yn agor mewn tab newydd)

Er mwyn cwblhau'r broses gymeradwyo, bydd angen i chi roi nifer o ddogfennau i ni, gan gynnwys:

  • System rheoli diogelwch bwyd fanwl wedi'i seilio ar HACCP, sy'n dangos bod gweithredwr y busnes bwyd yn rheoli risgiau ar bwyntiau rheoli critigol a nodwyd – gan gynnwys elfennau fel glanhau, rheoli tymheredd, atal trawshalogi, rheoli plâu ac ati.
  • Cynllun ar raddfa o'r sefydliad, sy'n dangos ardaloedd storio a phrosesu a gosodiad y cyfleusterau a'r offer.
  • Gwybodaeth am hyfforddiant i'r holl staff
  • Gwybodaeth am gynllun tynnu'n ôl mewn argyfwng a systemau olrhain:
  • pa fathau o fwyd y bwriadwch eu cynhyrchu, a faint,
  • dyluniad, adeiladwaith a gosodiad y safle,
  • trefniadau cynnal a chadw
  • gweithdrefnau rheoli plâu
  • trefniadau ar gyfer cymhwyso'r nod iechyd
  • trefniadau ar gyfer monitro iechyd staff
  • trefniadau ar gyfer glanhau'r safle, cyfarpar, offer a chludiant, gan gynnwys pa gemegau glanhau y bwriadwch eu defnyddio, a'ch cynllun samplu bwyd a dŵr
  • pa labordy y bwriadwch ei ddefnyddio i ddadansoddi samplau bwyd a dŵr
  • trefniadau ar gyfer gwaredu gwastraff
  • trefniadau ar gyfer hyfforddi staff

Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ond rhaid i'r Cyngor gymeradwyo'r uchod cyn rhoi cymeradwyaeth ar gyfer y safle.

Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais?

Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn trefnu ymweld â'ch safle a thrafod y prosesu a fwriedir gennych er mwyn pennu a yw'r holl systemau, gweithdrefnau a dogfennau yn ateb gofynion hylendid bwyd. Ar yr adeg hon, gellir rhoi cymeradwyaeth yn llawn neu'n amodol am dri mis.

Ym mhob cam o'r broses, gallwch ddisgwyl i ni roi gwybodaeth ysgrifenedig lawn i chi am statws eich cymeradwyaeth. Os caiff cymeradwyaeth ei gwrthod, neu ei rhoi'n amodol yn unig, mae gennych rai hawliau apelio hefyd.

Cymeradwyaeth amodol

Os byddwn yn rhoi cymeradwyaeth amodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig am delerau'r gymeradwyaeth amodol. Os byddwch wedi cydymffurfio â'r telerau hyn ymhen tri mis, cewch ymweliad pellach pan fyddwch yn cael cymeradwyaeth lawn, neu'n cael cymeradwyaeth amodol am dri mis arall neu bydd cymeradwyaeth yn cael ei gwrthod.

Cymeradwyaeth lawn

Bydd Nod Adnabod (nod hirgrwn) unigryw'n cael ei roi i'r safleoedd hynny sy'n cael cymeradwyaeth lawn, a dylid rhoi'r nod hwnnw ar labeli neu becynnau cynhyrchion. Byddwn yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n cynnal cronfa ddata genedlaethol o bob safle cymeradwy, am y gymeradwyaeth.

Beth am newidiadau i'm busnes?

Mae'n ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod gan y cyngor wybodaeth gyfredol bob amser, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw newidiadau o bwys i weithgareddau neu gau busnesau. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos safleoedd cymeradwy oherwydd y gofynion ynghylch olrhain bwydydd. Rhaid i chi hysbysu'r cyngor yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau.

Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth a roddir ar y ffurflen?

Mae'n ofynnol i'r Awdurdod Lleol gadw rhestr o'r busnesau bwyd y mae wedi'u cymeradwyo. Rhoddir y rhestr hon i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ac mae ar gael hefyd i'r cyhoedd ei gweld ar amseroedd rhesymol. Mae'r rhestr yn cynnwys y wybodaeth ganlynol am bob busnes bwyd:

  • Enw'r busnes bwyd
  • Cyfeiriad y busnes bwyd
  • Manylion a natur y busnes bwyd

Gall yr Awdurdod Lleol roi neu anfon copi o'r rhestr neu unrhyw gofnod arno i unrhyw unigolyn sy'n gwneud cais am wybodaeth o'r fath. Hefyd, mae'n ofynnol i ni roi gwybodaeth fanwl i gyrff gorfodi eraill, fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, os gofynnir amdani - a gallai hyn gynnwys data a gwybodaeth nad yw'n ymddangos ar ein cofrestr gyhoeddus.

Rhaid i'r Awdurdod Lleol roi ystyriaeth briodol i Ddeddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth y mae'n ei chadw.