Crynodeb o'r Drwydded
I ddarparu adloniant wedi’i reoleiddio a lluniaeth yn hwyr yn y nos, a gwerthu alcohol, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol os ydych yng Nghymru a Lloegr.
Meini Prawf Cymhwysedd
Caiff unrhyw un o’r canlynol wneud cais am drwydded safle:
- unrhyw un sy’n cynnal busnes ar y safle y mae’r drwydded yn gysylltiedig â hi
- clwb cydnabyddedig
- elusen
- corff y gwasanaeth iechyd
- rhywun sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas ag ysbyty annibynnol
- prif swyddog heddlu yng Nghymru a Lloegr
- unrhyw un sy'n cyflawni swyddogaeth statudol o dan hawl y Frenhines
- rhywun o sefydliad addysgol
- unrhyw un arall a ganiateir
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.
Crynodeb o’r Rheoliad
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon (yn agor mewn tab newydd)
Proses Gwerthuso Cais
Rhaid anfon ceisiadau i'r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae'r safle wedi'i leoli ynddi.
Rhaid i bob cais ddilyn fformat penodol a rhaid cynnwys unrhyw ffi ofynnol ynghyd ag amserlen weithredu, cynllun o’r safle a ffurflen ganiatâd gan oruchwyliwr y safle (yn achos ceisiadau lle y bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy).
Bydd amserlen weithredu yn cynnwys manylion:
- y gweithgareddau trwyddedadwy
- yr amseroedd pan fydd y gweithgareddau'n cael eu cynnal
- unrhyw amseroedd eraill pan fydd y safle ar agor i’r cyhoedd
- yn achos ymgeiswyr sy’n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen y drwydded ar ei gyfer
- gwybodaeth am oruchwyliwr y safle
- a fydd unrhyw alcohol sydd i’w werthu yn cael ei yfed ar y safle ynteu oddi ar y safle, neu’r ddau
- y camau y bwriedir eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
- unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol
Gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr hysbysebu eu cais a rhoi rhybudd o’r cais i unrhyw unigolyn neu gorff cyfrifol arall, e.e. yr awdurdod lleol, prif swyddog yr heddlu neu’r awdurdod tân ac achub.
Rhaid i’r cais gael ei ganiatáu gan yr awdurdod trwyddedu, a gall fod amodau ynghlwm wrtho. Rhaid cynnal gwrandawiad os cyflwynir unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cais. Os caiff gwrandawiad ei gynnal, gall y drwydded gael ei chaniatáu neu ei chaniatáu gydag amodau ychwanegol, gall gweithgareddau trwyddedadwy sydd wedi’u rhestru yn y cais gael eu heithrio neu gall y cais gael ei wrthod.
Bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad o'i benderfyniad i’r ymgeisydd, unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau perthnasol (h.y. sylwadau nad oeddent yn wacsaw neu'n flinderus) a phrif swyddog yr heddlu.
Hefyd, gellir gwneud ceisiadau i amrywio neu drosglwyddo trwydded. Gall fod angen cynnal gwrandawiad os cyflwynir sylwadau neu os nad yw amodau’n ymwneud â throsglwyddo wedi cael eu bodloni.
Ceisiadau eraill y gellir eu gwneud yw ceisiadau am hysbysiad awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd neu fethdaliad deiliad trwydded neu geisiadau adolygu.
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?
Ydyw. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.
Gwneud cais ar-lein
Fe allwch wneud cais am Drwydded Safle (alcohol ac adloniant) (yn agor mewn tab newydd)ar gov.uk.
Gallwch lawr lwytho copi o ganllawiau ar gyfer safleoedd sy’n gweini alcohol (yn agor mewn tab newydd) yma.
Gallwch lawr lwytho gwybodaeth ynghylch sut i lenwi eich ffurflen gais am drwydded (yn agor mewn tab newydd) yma.
Mae Rhestr o Ymgyngoreion (yn agor mewn tab newydd) hefyd ar gael.
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Os bydd cais am drwydded yn cael ei wrthod, gall yr ymgeisydd apelio.
Rhaid cyflwyno apêl i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.
Os gwneir cais gan brif swyddog yr heddlu, fel y manylir isod, a bod camau dros dro'n cael eu cymryd gan yr awdurdod trwyddedu, cewch gyflwyno sylwadau. Rhaid cynnal gwrandawiad o fewn 48 awr o dderbyn eich sylwadau.
Caiff deiliad trwydded apelio yn erbyn unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded, penderfyniad i wrthod cais amrywio, penderfyniad i wrthod cais trosglwyddo neu benderfyniad i atal gweithgaredd neu atal unigolyn rhag bod yn oruchwyliwr safle.
Rhaid cyflwyno apêl i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.
Cwynion gan Ddefnyddwyr
Mae Gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref a'r Sefydliad Trwyddedu (yn agor mewn tab newydd) ar gael i drigolion sydd o'r farn bod safle'n achosi problem.
Caiff parti â buddiant neu awdurdod cyfrifol wneud cais i'r awdurdod trwyddedu i adolygu trwydded y safle. Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal gan yr awdurdod trwyddedu.
Rhaid cyflwyno apêl i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.
Camau Unioni Eraill
Gall prif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal yr heddlu y mae'r safle wedi'i leoli ynddi wneud cais i'r awdurdod trwyddedu i adolygu'r drwydded os yw'r safle wedi'i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch swyddog heddlu wedi cyflwyno tystysgrif sy'n datgan ei fod o'r farn bod y safle'n gysylltiedig ag anhrefn neu droseddu difrifol neu'r ddau. Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal a chaiff deiliad y drwydded a phartïon eraill â buddiant gyflwyno sylwadau.
Gall prif swyddog yr heddlu gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod trwyddedu os yw o'r farn y gallai trosglwyddo trwydded i rywun arall, trwy gais amrywio, danseilio amcanion atal troseddu. Rhaid rhoi rhybudd o'r fath o fewn 14 diwrnod o dderbyn hysbysiad o'r cais.
Gall parti â buddiant neu gorff cyfrifol gyflwyno sylwadau mewn perthynas â chais am drwydded neu ofyn i'r corff trwyddedu adolygu trwydded.
Gall parti â buddiant neu awdurdod cyfrifol wneud cais i'r awdurdod trwyddedu adolygu trwydded y safle. Caiff gwrandawiad ei gynnal gan yr awdurdod trwyddedu.
Gall prif swyddog yr heddlu gyflwyno sylwadau i'r awdurdod trwyddedu er mwyn adolygu trwydded os yw'r safle wedi'i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch aelod o'r heddlu wedi cyflwyno tystysgrif yn datgan ei fod o'r farn bod y safle'n gysylltiedig ag anhrefn neu droseddu difrifol, neu'r ddau.
Gall parti â buddiant neu awdurdod perthnasol a gyflwynodd sylwadau perthnasol apelio yn erbyn caniatáu trwydded neu yn erbyn unrhyw amod, amrywiad, gweithgaredd trwyddedadwy neu benderfyniadau am oruchwyliwr y safle.
Rhaid cyflwyno apêl i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.
Sylwch - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen Y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.