Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae'r Gronfa Twf Lleol yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU a'i chyflwyno gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru. Mae'n cymryd lle’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae'n cynnwys tua 70 y cant o arian cyfalaf a 30 y cant o arian refeniw.

Mae Cyngor Torfaen wedi cael £6.5m ar gyfer 2026-2027 a fydd yn cael ei fuddsoddi yn y prosiectau canlynol:

Sgiliau a chyflogaeth

Cynyddu Sgiliau a Chefnogi Pobl i Weithio

Bydd y prosiect yn blaenoriaethu datblygiad y gweithlu. Bydd yn galluogi unigolion i uwchsgilio a symud ymlaen o fewn eu cyflogaeth trwy hyfforddiant wedi'i dargedu, sy'n cael ei arwain gan y galw ac sy'n cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr a’r sector. Cynhelir astudiaeth ddichonoldeb hefyd i roi mewnwelediad manwl i fylchau sgiliau lleol, y galw ymhlith cyflogwyr ac anghenion sy'n dod i'r amlwg o fewn y sector.

Cymorth busnes

Uned Hybu Mentrau Cymunedol

Bydd yr Uned ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl a bydd yn darparu pecyn cynhwysfawr o gymorth, gan gynnwys mynediad at gyllid, canllawiau llywodraethu a chynllunio busnes i fusnesau newydd.

Twf Springboard a glanio meddal

Gyda'r nod o gyflymu twf busnes yn y cyfnod cynnar a chryfhau'r ecosystem arloesi ranbarthol, bydd yn cynnwys tri mis o rent a chymorth cyfreithiol am ddim.

Ffynnu Gyda'n Gilydd: Menter a Seilwaith

Rhaglen gyfalaf sy'n cefnogi 15 o fentrau lleol, gan gynnwys busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol i fabwysiadu technolegau ynni adnewyddadwy, gan wella cynhyrchiant trwy leihau costau gweithredu a chynyddu gwytnwch.

Twf Busnesau Torfaen

Gwella gwytnwch a chynhyrchiant busnesau, a’u gallu i gystadlu, trwy ymgysylltu strwythuredig, rhwydweithio wedi'i dargedu, a chymorth trwy gyngor wedi'i deilwra sy’n cyd-fynd â phob cam yng nghylch bywyd y busnes.

Fforwm Economaidd Strategol Torfaen

Bydd y Fforwm yn gweithio gyda'r 60 busnes gorau yn y Fwrdeistref ac yn adnabod cyfleoedd i weithio gyda'r Cyngor er mwyn dod o hyd i atebion yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.

Gwella seilwaith rhanbarthol

Adfer Porth Deheuol Pwll Du

Bydd prosiect Adfer Porth Deheuol Pwll Du yn sefydlogi ac yn adfer ased treftadaeth ddiwydiannol ag arwyddocâd cenedlaethol o fewn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.

Hamdden Awyr Agored Llwybrau Tirpentwys

Nod y prosiect yw trawsnewid cyrchfan hamdden awyr agored anffurfiol yn hwb aml-ddefnydd cynaliadwy, hygyrch ac economaidd fuddiol i ymwelwyr, ar gyfer Torfaen, yn rhan o rwydwaith Beicio Mynydd arfaethedig ar gyfer Pont-y-pŵl.

Safleoedd Strategol Torfaen, Parodrwydd i Fuddsoddi

Bydd ymgynghorwyr arbenigol yn cael eu comisiynu i gynnal arfarniadau ariannol, asesiadau hyfywedd datblygiad ac astudiaethau parodrwydd i fuddsoddi ar draws portffolio o safleoedd datblygu strategol.

Ardal gyflogaeth

Ailwampio uned ddiwydiannol wag fawr yng Nghwmbrân gan dargedu tenant busnes bach neu ganolig.

Seilwaith digidol

Ail gam rhaglen ar y cyd â Chyngor Blaenau Gwent sy’n anelu at wella parodrwydd i fuddsoddi, cynhyrchiant busnes, cyfranogiad digidol a thwf economaidd trwy gynllunio cydlynol a datblygu partneriaethau.

Strategaeth actifadu

Dadansoddiad gwaelodlin, digwyddiadau wedi'u targedu a chymorth uniongyrchol i fusnesau ac entrepreneuriaid er mwyn cynyddu gweithgarwch busnes yng nghanol trefi, profi cyfleoedd newydd i fasnachu, lleihau adeiladau gwag a chreu cynlluniau a arweinir gan dystiolaeth ar gyfer buddsoddiad mewn gwaith adfywio yn y dyfodol.

Creu Safleoedd a Chaffael

Rhaglen strategol o gaffael tir ac eiddo i gefnogi’r gwaith o wireddu cyfleoedd adfywio a nodwyd yn Uwchgynllun Pont-y-pŵl.