Gwasanaethau Ariannu Allanol

Gall y Tîm ddarparu cyngor ac arweiniad wrth ddatblygu ceisiadau am gyllid allanol trwy:

  • Drafod gofynion ariannu a chynghori pa arianwyr sydd fwyaf tebygol o helpu.
  • Adolygu ffurflenni cais drafft a rhoi cyngor/awgrymiadau ar welliannau posibl.
  • Olrhain ffynonellau newydd o grantiau, newidiadau i ffynonellau sy'n bodoli eisoes a rhoi gwybod am derfynau amser sydd ar ddod.
  • Darparu diweddariadau ar bolisïau a blaenoriaethau nawr ac yn y dyfodol.
  • Chwilio trwy holl grantiau a dyfarniadau'r DU, y Loteri a'r Undeb Ewropeaidd sydd ar gael.
  • Helpu'r awdurdod lleol, sefydliadau'r sectorau preifat a'r trydydd sector i ddatblygu ceisiadau arloesol am gyllid allanol.
  • Cysylltu ceisiadau tebyg/perthynol arfaethedig at ei gilydd er mwyn osgoi dyblygu prosiectau a mwyhau'r cyfleoedd ariannu.
  • Darparu cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar reoli, darparu a gwerthuso prosiect sy'n cael ei ariannu'n allanol.
  • Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid allanol sydd ar gael ledled yr awdurdod lleol.
  • Hyrwyddo a marchnata cyfleoedd ariannu allanol.

Chwiliadau Cyllid

Rhan o rôl y tîm yw rhoi cymorth i swyddogion mewnol a sefydliadau allanol sydd am gael hyd i gyfleoedd ariannu trwy gynnal chwiliadau yna cyfeirio at y ffynonellau ariannu perthnasol, ac anfon negeseuon ynghylch cyfleoedd ariannu i randdeiliaid priodol fel eu bod yn gwybod am y cyfleoedd dan sylw.

I gyflawni chwiliad manwl am gyllid, neu os hoffech dderbyn negeseuon ynghylch cyfleoedd ariannu, cysylltwch â’r Tîm Cyllid Allanol.