Rydym yn cynnal archwiliadau yn y mwyafrif o safleoedd bwyd yn Nhorfaen yn rheolaidd, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn gwerthu bwyd sy'n ddiogel. I wneud hyn, rydym yn dilyn gofynion Cod Ymarfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n nodi pryd a sut y dylem archwilio busnesau bwyd.
Mae ein rhaglen archwilio yn seiliedig ar nifer o ffactorau, fel, p’un ai yw busnesau yn gwerthu bwydydd uchel eu risg, faint o gwsmeriaid sydd ganddynt a'r hyder sydd gennym ni yn eu dulliau rheoli. Mae hyn yn golygu y bydd rhai safleoedd yn cael eu harchwilio bob 6 mis, tra y bydd safleoedd eraill efallai ond yn cael eu harchwilio bob 3 blynedd; ac mae'n rhaid i ni archwilio'r safleoedd erbyn dyddiadau penodol.
Mae yna rhai safleoedd na fyddwn yn eu harchwilio, fel gwarchodwyr plant, am nad yw'n ofynnol iddynt fod ar ein cronfa ddata. Mae safleoedd sydd o risg isel iawn hefyd yn cael eu heithrio, ac rydym yn cymryd camau gwahanol i gael gwybodaeth gan y busnesau hyn a rhoi cyngor iddynt.
Yn gyffredinol, rydym yn cynnal ein harchwiliadau heb eu cyhoeddi ymlaen llaw, a hynny phan fydd y busnesau ar agor am fusnes, er mwyn i ni weld sut le yw'r safle pan fyddant yn gwerthu bwyd i'w cwsmeriaid. Mae gennym hawl yn ôl y gyfraith i gael mynediad i fusnesau bwyd ar unrhyw adeg, er, byddwn yn ceisio ymweld â hwy ar amser sydd hefyd yn addas i'r busnes.
Oni bai y byddwn yn credu bod yna broblem ddifrifol a allai arwain at salwch neu anaf difrifol, byddwn fel arfer yn:
- Archwilio ar adeg sy'n gyfleus i'r busnes dan sylw (mae hyn hefyd yn ei gwneud hi’n haws i ni gwblhau ein harchwiliad).
- Cyflwyno ein hunain, a sicrhau bod rhywun o gwmpas a all siarad â ni ar ran y cwmni, a rhoi inni'r wybodaeth sydd ei hangen arnom.
- Gofyn i rywun o'r busnes i’n tywys o amgylch yn ystod yr archwiliad er mwyn i ni ddangos yr hyn yr ydym yn ei ddarganfod, a thrafod unrhyw waith sydd angen ei wneud.
- Hysbysu perchennog y busnes yn ysgrifenedig ynghylch unrhyw beth sy'n groes i'r gofynion, y camau sydd angen iddynt gymryd, a'r raddfa amser i gwblhau'r gwaith. Byddwn hefyd yn argymell os gwelwn unrhyw beth a allai helpu i wella'r ffordd y mae eu busnes yn cydymffurfio â'r gyfraith.
Yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn rhoi cyngor i fusnesau, ac efallai y byddwn yn ysgrifennu i gadarnhau unrhyw broblemau y ceir hyd iddynt. Mewn achosion difrifol, gallwn gyflwyno rhybudd i rywun yn mynnu eu bod yn cymryd camau priodol, ac fe allwn erlyn a chau safle dros dro os yw'r safonau yn wael iawn.
Cynllun y Gwasanaeth Bwyd
Erbyn hyn, rhaid i bob cyngor lleol gynhyrchu Cynllun Gwasanaeth Diogelwch Bwyd blynyddol, sy'n amlinellu'r hyn rydym yn ei wneud i sicrhau diogelwch bwyd.
Cynhyrchwyd y Cynllun Gwasanaeth hwn i ymateb i gytundeb fframwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar orfodi cyfraith bwyd. Mae'n dweud wrthych sut y byddwn yn gwarchod ac yn hyrwyddo diogelwch bwyd ledled Torfaen trwy gyfuniad o gamau, a fydd yn cynnwys gorfodi cyfraith diogelwch bwyd, samplu bwydydd a chysylltu â sefydliadau eraill. Mae hefyd yn amlinellu blaenoriaethau, targedau, adnoddau a pherfformiad yn ymwneud â diogelwch bwyd, ac yn dangos sut mae hyn yn cyd-fynd â gwaith arall sy'n cael ei wneud gan y timau sy'n cyflawni'r gwaith hwn.
Dylai'r cynllun helpu i reoli'r gwasanaeth a chynllunio perfformiad, yn ogystal â helpu i gymharu perfformiad yn erbyn awdurdodau lleol eraill.
Bob blwyddyn, rydym yn arolygu canran o'r safleoedd bwyd (yn unol â chynllun arolygu cenedlaethol ar sail risg) yn yr ardal er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhedeg mewn modd hylan a'u bod yn gwerthu bwyd sy'n ddiogel i'w fwyta.
Mae Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn caniatáu defnyddio nifer o ymyriadau gwahanol yn lle arolygiadau. Mae hyn yn caniatáu defnyddio dull ar sail risg. Mae'r rhan fwyaf o'r busnesau bwyd yn Nhorfaen eisoes yn bodloni safonau diogelwch bwyd uchel, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau y caiff y safonau hyn eu cynnal, gan ddefnyddio ymagwedd gadarn ond teg.
Credwn fod ein hymagwedd yn gweithio, gan nad oes rhaid i ni gymryd camau cyfreithiol yn erbyn allfeydd bwyd yn aml iawn, ac ychydig iawn o achosion o wenwyn bwyd a gadarnhawyd sy'n deillio o fusnesau lleol.
Gellir lawrlwytho copi o Gynllun y Gwasanaeth Bwyd (yn agor mewn tab newydd) yma.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech wneud sylwadau am y cynllun hwn, gallwch anfon neges e-bost atom yn foodandhealthprotection@torfaen.gov.uk.