Pan fyddwch yn bwyta rhywbeth sydd wedi'i halogi â germau , mae’n achosi gwenwyn bwyd.

Gall hyn ddigwydd os yw bwyd:

  • heb ei goginio neu ei aildwymo’n drylwyr
  • heb ei storio’n gywir – er enghraifft, heb ei rewi na'i oeri
  • wedi cael ei adael allan yn rhy hir
  • yn cael ei drin gan rywun sy'n sâl neu heb olchi eu dwylo
  • yn cael ei fwyta ar ôl ei ddyddiad 'defnyddio erbyn'

Pwy sydd fwyaf mewn perygl?

Y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef symptomau difrifol yw plant ifanc, menywod beichiog, pobl â chyflyrau iechyd fel canser, diabetes, clefyd yr afu a'r arennau ac ati, a phobl hŷn.

Gall imiwnedd y bobl yn y grwpiau hyn fod yn is, sy'n golygu ei bod yn anoddach iddynt ymladd bacteria a firysau.

Dylid cymryd gofal ychwanegol wrth baratoi, coginio a storio bwyd i chi'ch hun neu eraill yn y grwpiau hyn.

Sut i roi gwybod am fater hylendid neu ddiogelwch bwyd

Gallwch roi gwybod i ni am broblem sy’n ymwneud â bwyd mewn bwyty, siop fwyd, pryder am eitem a brynwyd neu gyda bwyd a archebwyd ar-lein, os yw’r busnes wedi'i leoli yn Nhorfaen. Bydd y tîm diogelwch bwyd yn ystyried y gŵyn ac yn penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o weithredu.

Beth allwch chi roi gwybod amdano

Gallwch roi gwybod os:

  • ydych chi’n amau gwenwyn bwyd
  • os oes rhywbeth na ddylai fod yn eich bwyd
  • os yw’r safle’n fudr
  • os oes dulliau gwael o ran hylendid dwylo
  • os oes dulliau gwael o ran trafod bwyd
  • os oes arwyddion amlwg o lwydni neu bydredd
  • os yw’r bwyd sy’n cael ei werthu, heibio ei ddyddiad defnyddio erbyn
  • os oes diffyg gwybodaeth neu wybodaeth anghywir am alergenau (yn agor mewn tab newydd)

Sut allwch chi leihau'r risg o wenwyn bwyd yn y cartref

Wrth ddilyn y cyngor ar hylendid bwyd a mathau eraill o gyngor, gall eich helpu i baratoi, coginio a storio bwyd yn ddiogel:

Bacteria a firysau sy'n gallu achosi gwenwyn bwyd