Os nad ydych yn talu un o'ch rhandaliadau Trethi Busnes mewn pryd, bydd llythyr atgoffa yn cael ei anfon atoch yn datgan faint y mae angen i chi ei dalu.
Os nad ydych yn talu ar ôl i ni anfon llythyr atgoffa atoch ac yna'n peidio â gwneud yr holl daliadau eraill mewn pryd, byddwch yn colli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau.
Bydd y Cyngor yn mynnu eich bod yn talu'r swm llawn ar unwaith a gallech gael Gwŷs i ymddangos yn y Llys Ynadon. Bydd unrhyw wŷs a gyhoeddir yn arwain at gostau o £70. Oni bai y derbynnir y taliad, bydd y Cyngor yn gwneud cais i'r Llys am orchymyn atebolrwydd.
Os ydych yn cael trafferth talu eich Trethi Busnes, cysylltwch â ni ar unwaith ar 01495 766125/766126. Peidiwch ag aros i ni anfon llythyr atgoffa atoch.