Mae Ardrethi Busnes yn daladwy gan ddeiliaid pob eiddo annomestig/busnes yn yr un ffordd ag y mae treth y cyngor yn dreth ar eiddo domestig.
Mae ardrethi busnes yn cael eu codi ar y rhan fwyaf o eiddo busnes fel siopau, swyddfeydd, tafarnau storfeydd a ffatrïoedd. Ond, nid oes rhaid i’r eiddo fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes – os yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpasau nad sy’n ddomestig mae’n debygol o fod yn drethiannol.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn pennu gwerth ardrethol yr eiddo busnes gan ddefnyddio manylion am yr eiddo fel gwybodaeth ynglŷn â rhent. Rydym yn defnyddio’r gwerth ardrethol a’r lluosydd ardrethol annomestig cenedlaethol (sy’n cael ei osod gan lywodraeth ganolog) i gyfrif eich bil ardrethi busnes.
Beth yw’r Lluosydd Ardrethi Annomestig Cenedlaethol?
Dyma’r gyfradd yn y bunt y mae’r gwerth trethiannol yn cael ei luosi â hi i roi’r bil treth blynyddol ar gyfer eiddo.
Mae’r lluosydd a osodir yn flynyddol gan Weinidogion Cymru yr un fath ar gyfer Cymru gyfan. Y lluosydd ar gyfer 2025/26 oedd 0.568.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, mae tri lluosydd a all fod yn berthnasol i eiddo yng Nghymru. Dyma’r lluosyddion ar gyfer 2026/27:
- lluosydd manwerthu o 0.350, sy’n berthnasol i siopau manwerthu bach i ganolig eu maint gyda gwerth trethiannol islaw £51,000
- lluosydd safonol o 0.502, sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o eiddo eraill
- lluosydd uwch o 0.515, sy’n berthnasol i eiddo â gwerth trethiannol uwchlaw £100,000
Mae canllawiau ar gymhwyso’r lluosyddion hyn ar gael ar wefan Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Gwybodaeth Bellach
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) a businesswales.gov.wales (yn agor mewn tab newydd)
Mynd at y Gwasanaeth Budd-daliadau, Treth Gyngor ac Ardrethi Busnes ar-lein (yn agor mewn tab newydd)Dogfennau
- Nodiadau Esboniadol Trethi Busnes (yn agor mewn tab newydd)pdf file[157KB]
- Taflen Ariannol Torfaen (yn agor mewn tab newydd)pdf file[2.07MB]
- Ffurflen Ymholiadau Trethi Busnes (yn agor mewn tab newydd)pdf file[191KB]
Thaflen Cyllideb Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (yn agor mewn tab newydd)