P’un ai ydym yn buddsoddi mwy i wneud y fwrdeistref yn lanach a gwyrddach, darparu cymorth i bobl fregus yn y gymuned neu’n gwella safonau mewn ysgolion, rydym yn ymrwymo i wneud Torfaen yn lle gwell i’n trigolion. A gyda cyllidebau dan bwysau cynyddol, mae’n bwysig iawn ein bod yn deall profiadau a’r disgwyliadau sydd gan pobl wrth ddelio â’u cyngor lleol.
Rydym yn clywed o hyd nad yw arolygon yn bwysig neu nad oes unrhyw beth yn digwydd yn dilyn yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, ond nid yw hynny’n wir. Mae canlyniadau arolwg y trigolion yn cael eu defnyddio i lywio penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud ac maent yn ein helpu i farnu a yw ein gwasanaethau yn bodloni’r disgwyliadau sydd gan y bobl.
Arolwg Trigolion Torfaen 2019
Cynhaliwyd ein harolwg trigolion diweddaraf rhwng Gorffennaf a Medi 2019, a derbyniwyd cyfanswm o 1659 o ymatebion.
P'un ai buddsoddi mwy i wneud y fwrdeistref yn lanach ac yn wyrddach, darparu cefnogaeth i bobl sy'n agored i niwed yn y gymuned neu fynd ati i wella'r safonau yn ein hysgolion, rydym wedi ymrwymo i wneud Torfaen yn lle gwell i'n trigolion. A gyda chyllidebau o dan bwysau cynyddol mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall pa brofiadau a disgwyliadau sydd gan bobl o ran eu cyngor lleol.
Dywedir wrthym bob amser nad yw arolygon yn bwysig, neu na fydd dim yn digwydd o ganlyniad i'r hyn a ddywedir wrthym ond nid dyna'r achos. Defnyddir canlyniadau'r arolwg i helpu i lywio penderfyniadau a wneir a'n galluogi ni i farnu a yw ein gwasanaethau'n bodloni'r disgwyliadau sydd gan bobl.
Dadansoddwyd yr ymatebion ar gyfer yr awdurdod lleol yn gyffredinol. Rydym hefyd wedi cymharu canlyniadau 2019 yn erbyn arolwg trigolion 2018 a 2017 i ddangos newid dros amser. Mae'r holl ganlyniadau wedi'u pwysoli yn ôl oedran a rhyw.
Siartiau Dadansoddi 2017-2019 (yn agor mewn tab newydd) - Yma gallwch ddewis cwestiwn o'r gwymplen ar y brig a gweld y canlyniadau arolygon 2017/2018/2019. Mae pob bar hefyd yn dangos cyfwng hyder cysgodol yn llwyd; dyma'r ffin gwall o fod yn 95% hyderus bod y canlyniadau cynrychioliadol o fewn yr ystod hon. Mae'r dudalen hefyd yn dangos dadansoddiad o faterion traffig yn Nhorfaen ar draws tair blynedd yr arolwg. Gofynnodd y cwestiwn hwn i drigolion ddewis y tri phrif fater sy'n effeithio ar deithio a thrafnidiaeth yn Nhorfaen. Dangosir y tri mater uchaf fel bariau coch. Bydd hofran eich llygoden dros y bariau yn dangos y canlyniadau a'r safle; safle 1 yw'r mater sydd â'r sgôr uchaf, ond safle 11 yw'r mater sydd â'r sgôr isaf.
Matrics Canlyniadau 2017-2019 (yn agor mewn tab newydd) - Tabl rhifiadol o ganlyniadau canrannol yw hwn ar gyfer pob cwestiwn gan gynnwys y cyfyngau hyder uchaf ac isaf.