Yma, gallwch weld data ar Gymunedau yn Nhorfaen, archwilio’r data a chreu map thematig yn seiliedig ar eich darganfyddiadau. Cliciwch yma i weld y Proffiliau Cymunedol yn Nhorfaen (yn agor mewn tab newydd).

Esbonio Daearyddiaeth Cymunedau:

Fel rhan o Asesiad Lles Torfaen a gynhaliwyd yn 2016, roedd angen diffinio ffiniau cymunedol yn y fwrdeistref y gellir eu cymharu. Penderfynwyd bod Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG) yn ddigon bach i nodi anghydraddoldeb rhwng ardaloedd, ond yn ddigon mawr i gynrychioli ardaloedd cymunedol allweddol.

Mae ACEHG yn ddaearyddiaethau ystadegol y SYG lle mae'r boblogaeth rhwng 5,000 a 15,000 ac mae yna rhwng 2,000 a 6,000 o aelwydydd.

Mae hyn yn golygu y gellir cymharu ACEHG â'i gilydd yn ystadegol, yn wahanol i ddaearyddiaethau wardiau etholiadol lle gallai'r boblogaeth amrywio o lai na 100 i fwy na 30,000 mewn rhannau o'r DU. Mae gan Gymru 413 ACEHG, ac mae gan Dorfaen 13 ohonynt.

Dyma dabl sy'n croesgyfeirio'r cymunedau a ddefnyddir yn y dadansoddiad hwn, i roi gwell dealltwriaeth o'r ardaloedd sydd wedi'u lleoli yn y cymunedau a'r aneddiadau. Mae'r ardaloedd a ddangosir isod yn rhai bras a gallant ledaenu i ardaloedd cyfagos.

Torfaen MSOA meaningful names
SetliadEnw EGEHGLleoliadau
BlaenafonBlaenafonBlaenafon
Pont-y-pŵlGogledd Pont-y-pŵlAbersychan, Cwmafon, Garndiffaith, Tal-y-waun, Varteg
Canol Pont-y-pŵlPen-y-garn, Coed Llwyd, Sant Cadog, Trefddyn
Gorllewin Pont-y-pŵlBrynwern, Cwm Fields, Cwm-ynys-cou, Pontnewynydd, Pont-y-moel, Canol tref Pont-y-pŵl, Tranch, Trosnant, Upper Race, Waunfelin
Dwyrain Pont-y-pŵlY Dafarn Newydd
De Pont-y-pŵlTref Gruffydd, Sebastopol
CwmbrânGogledd CwmbrânLowlands, Pentre Uchaf, Pontnewydd, Pontrhydyrun Cwmbrân Uchaf
Dwyrain CwmbrânCroesyceiliog, Gogledd Llanyrafon
Gogledd-orllewin CwmbrânDwyrain y Ddôl Werdd, Pontnewydd, Gorllewin Bryn Eithin,
Canol CwmbrânHen Gwmbrân, Pentre Isaf, Sain Derfel
Gorllewin CwmbrânGorllewin y Ddôl Werdd, Fairwater
De-orllewin CwmbrânCoed Efa, Henllys, Dwy Loc, Tŷ Canol
De-ddwyrain CwmbrânCanol tref Cwmbrân, Llanfrechfa, Llantarnam, De Llanyrafon, Cae Derw, Phonthir