Mae'r cyfansoddiad yn rheoli'r ffordd y mae'r cyngor, cynghorwyr a swyddogion yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni swyddogaethau'r cyngor.

Mae'n sicrhau bod pawb yn gweithredu'n gyfreithlon, yn deg ac yn briodol a bod swyddogaethau'r Cyngor yn cael eu cyflawni'n briodol ac yn effeithiol.

Ei fwriad yw:

  • Galluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau effeithiol ac effeithlon
  • Eich cefnogi i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnoch
  • Helpu cynghorwyr i gynrychioli eu hetholwyr yn fwy effeithiol
  • Eich galluogi i ddwyn y cyngor i gyfrif

Mae adrannau'r cyfansoddiad ar gael i'w lawr lwytho isod.

I gael cymorth i ddeall y ddogfen, gallwch lawr lwytho Canllaw i'r Cyfansoddiad (yn agor mewn tab newydd).

Gwasanaethau Democrataidd