Mae gan bob Cynghorydd hawl i lwfans sylfaenol (sydd yn £19,771 ar hyn o bryd) i adlewyrchu'r gwaith y maent yn ei wneud fel cynrychiolwyr lleol.

Mae gan rai swyddi, er enghraifft yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, Aelodau'r Cabinet, Craffu a Chadeiryddion Pwyllgorau eraill fel Cynllunio a Thrwyddedu, gyfrifoldebau arbennig uwchlaw Cynghorwyr eraill. Gall y Cynghorwyr hyn hawlio lwfansau am gyfrifoldeb arbennig. Mae lwfans gofal hefyd ar gael i'r rhai sydd â dibynyddion.

Gall cynghorwyr hawlio treuliau i dalu eu costau pan fyddant yn teithio i ffwrdd ar fusnes y cyngor, er enghraifft cyfarfodydd pwyllgor.

Mae Cyngor Torfaen yn cyhoeddi treuliau, neu Restr Taliadau Aelodau - yn flynyddol.

Y Comisiwn Ffiniau i Gymru sy’n penderfynu ar gyflogau a lwfansau cynghorwyr.

Gwasanaethau Democrataidd