Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Bob blwyddyn, rydym yn anfon taflen at holl dalwyr y Dreth Gyngor sy'n esbonio'n gryno:

  • Amcangyfrif y Cyngor o gost gwasanaethau
  • Ffynonellau incwm y Cyngor
  • Ar beth yr ydym yn gwario eich taliad Treth Gyngor
  • Praeseptau Cynghorau Cymuned
  • Taliadau'r Dreth Gyngor yn ôl ardaloedd Cymunedau

I gael mwy o wybodaeth, lawrlwythwch y daflen gyfan yma

Mae copi llawn o Lyfr Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gael trwy ffonio'r Gwasanaethau Ariannol.

Gwasanaethau Ariannol

Fforwm Cyllideb Ysgolion

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Fforwm Cyllideb Ysgolion.

Ar Fforwm Cyllideb Ysgolion Torfaen mae yna gynrychiolwyr ysgolion, gan gynnwys penaethiaid a llywodraethwyr, a chynrychiolwyr sydd ddim yn ysgolion, fel swyddogion awdurdodau lleol ac aelodau o undebau llafur. Mae'r Fforwm yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin dealltwriaeth a deialog adeiladol rhwng y Cyngor a'i ysgolion am faterion cyllidebol, gan gynnwys lefelau cyllido ysgolion, pwysau ariannol sy'n dod i'r amlwg, a newidiadau arfaethedig i'r fformiwla gyllido leol.

Mae copïau o gofnodion y cyfarfodydd i'w gweld yma - Fforwm Cyllideb Ysgolion (yn agor mewn tab newydd)