Triniaethau Arbennig

O 29 Tachwedd 2024, mae rheolau trwyddedu newydd ar waith ar gyfer y triniaethau arbennig canlynol yng Nghymru:

  • Aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych)
  • Tyllu'r corff (gan gynnwys tyllu clustiau)
  • Electrolysis
  • Tatwio (gan gynnwys colur lled-barhaol a microlafnu)

Rhaid i unigolyn sy'n cyflawni unrhyw un o'r 4 triniaeth arbennig dan sylw wneud cais am drwydded triniaeth arbennig. Rhaid gwneud cais i'r Awdurdod Lleol lle bydd y weithdrefn yn cael ei chynnal, a rhaid talu’r ffi perthnasol. Mae hyn yn berthnasol i bob unigolyn sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd i gynnal y triniaethau hyn, a phob ymgeisydd newydd.

Deiliaid trwyddedau presennol

Bydd deiliaid trwyddedau presennol yn gallu elwa o drefniadau newydd ar gyfer y triniaethau y maen nhw wedi'u hawdurdodi i'w cyflawni ar hyn o bryd. Er mwyn parhau i gyflawni'r triniaethau hyn yn y dyfodol, bydd angen i unigolion gyflwyno’u cais o dan y cynllun newydd erbyn 28 Chwefror 2025. Bydd angen talu ffi. Ar ôl talu’r ffi, bydd y cais yn cael ei asesu a’i brosesu. Bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod y canlyniad.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Ffurflenni cais

Mae’r ffurflenni cais ar gyfer Trwyddedau a Safleoedd/Cerbydau Ymarferwyr Triniaethau Arbennig Cymeradwy ar gael isod

Trwydded Ymarferydd Triniaeth Arbennig

Tystysgrif Cymeradwyo Triniaeth Arbennig

Ffurflenni Cais wedi eu llenwi

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi eu llenwi i licensing@torfaen.gov.uk neu yn y post i’r Tîm Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB.

Ffioedd

Mae rhestr o Ffioedd Trwyddedu ar gyfer trwyddedau yn Nhorfaen ar gael yma.

Gwneud taliad

Gall deiliaid trwydded bresennol neu ddarpar ddeiliaid trwydded sydd am wneud ymholiad am y cynllun newydd ar gyfer trwyddedu Triniaethau Arbennig, gysylltu â'r tîm trwyddedu.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/05/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig