Heidiau o Wenyn

Mae heidio yn broses naturiol lle mae gwenyn yn gadael eu cwch gwenyn ac yn dod o hyd i le i hongian mewn clwstwr tan bod y gwenyn  sy’n chwilota yn penderfynu ar eu cartref newydd.

Mae'r heidio yn digwydd gan amlaf ar ddiwrnodau heulog cynnes, o fis Mai tan ddiwedd Gorffennaf, ac fel arfer rhwng 11am a 4pm.

Yn aml, mae yna uchafbwynt ar ddiwrnod braf ar ôl tywydd gwael pan fydd y tymheredd yn agosáu at ugain gradd.

Gall heidiau fod yn ddramatig ond fel arfer byddant yn setlo fel clwstwr o fewn 15 munud.

Mae gwenyn yn hanfodol i’n hamgylchedd, maen nhw’n helpu plant i dyfu trwy beillio blodau, sy’n arwain at gael ffrwythau a hadau. Mae hyn yn cefnogi bioamrywiaeth, o fudd i’n cyflenwad bwyd, ac yn cynnal anifeiliaid eraill ac felly, er gwaethaf pryderon y cyhoedd am heidiau, ni ddylid ystyried eu bod yn bla.

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi haid, defnyddiwch y Map Casglu Heidiau i ddod o hyd i wenynwr lleol i ddod i gasglu’r gwenyn.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/09/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Anifeiliaid a Phlâu

Ffôn: 01633 648009

Email: publicprotectionadminteam@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig