Symud Anifeiliaid Marw

Fel cyngor lleol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyfrifol am waith Glanhau Amgylcheddol ar y tir sydd ym mherchenogaeth y cyngor ar draws y Fwrdeistref Sirol. 

Mae cyfoeth o ardaloedd gwyrdd a choediog yn Nhorfaen ac, o bryd i'w gilydd, bydd anifeiliaid gwyllt marw fel moch daear, llwynogod, cwningod a gwiwerod yn cael eu darganfod mewn mannau cyhoeddus fel parciau, llwybrau ac ar y ffyrdd. Yn ogystal â hyn, bydd cŵn a chathod dof weithiau'n cael eu darganfod yn farw ar dir cyhoeddus.

Wrth gwrs, mae cyrff anifeiliaid sydd wedi'u gadael ar ein strydoedd yn peri risg i iechyd, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae plant yn chwarae. Mae anifeiliaid marw ar y ffyrdd yn achosi perygl i fodurwyr a cherddwyr.

Bydd Tîm Steetscene y Cyngor yn delio ag anifeiliaid marw sy'n cael eu darganfod ar briffordd gyhoeddus, llwybr troed, hawl tramwy gyhoeddus, mannau agored cyhoeddus (gan gynnwys parciau a meysydd chwarae), meysydd parcio sydd ym mherchenogaeth y Cyngor neu leoliadau tebyg.

Os yw aelod o'r cyhoedd yn gwaredu anifail marw o'r tu allan i'w eiddo, dylai sicrhau bod yr anifail yn cael ei roi mewn bag neu flwch a'i adael ychydig y tu mewn i'r fynedfa. Yna, bydd Streetscene yn trefnu i'w waredu. Byddwch yn ymwybodol na fydd y Cyngor yn gwaredu anifeiliaid anwes.

Anifeiliaid marw ar safleoedd masnachol

Nid yw'r cyngor yn gwaredu anifeiliaid marw o safleoedd masnachol am ddim.

Os dewch o hyd i anifail marw ar safle masnachol neu ddiwydiannol, rhowch wybod i'r perchennog. Os mai chi yw'r perchennog, cysylltwch â'ch awdurdod lleol a rhown bris i chi ar gyfer casglu a gwaredu'r anifaiI marw.

Adrodd Amdano

Gallwch adrodd am anifail marw ar dir cyhoeddus yma. 

Bydd rhoi gwybodaeth gywir i'r Cyngor e.e. y math o anifail a'i union leoliad, yn helpu swyddogion i ymateb yn gyflym i'r adroddiad am anifail marw.

Bydd anifeiliaid marw'n cael eu gwaredu o dir cyhoeddus o fewn 48 awr o gael adroddiad. Os ystyrir bod yr adroddiad yn berygl i ddefnyddwyr y briffordd a/neu iechyd cyhoeddus, yna bydd swyddogion yn ymdrechu i ymateb o fewn 24 awr.

Costau

Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn os yw'r anifail ar dir cyhoeddus. Fodd bynnag, mae'n bosibl y codir tâl am waredu o dir preifat.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Streetscene

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig