Rheoli Plâu

Rhodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen y gorau i gynnig gwasanaeth triniaeth rheoli plâu i drigolion o 30 Mehefin 2016. Cafodd y gwasanaeth ei dynnu'n ôl fel rhan o fesurau arbed cyllideb y cyngor ar gyfer 2016/17 a disgwylir iddo arbed tua £37,400 y flwyddyn.

O 1 Gorffennaf 2016, bydd angen i drigolion gysylltu â chwmni preifat sy’n rheoli plâu ar gyfer problemau gyda llygod mawr, llygod, llau gwely neu chwilod duon.

Mae cyngor ar ddelio â gwahanol fathau o blâu, a dod o hyd i gwmni lleol sy’n rheoli plâu, ar gael ar wefan Cymdeithas Rheoli plâu prydain

Bydd y cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaeth contract masnachol ar gyfer busnesau lleol, a bydd yn ymchwilio i adroddiadau gan drigolion ar bla o eiddo cyfagos. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Thîm Diogelu'r Cyhoedd y cyngor ar 01633 648009.

Mae yna nifer o gwmnïau lleol sy’n rheoli plâu a all drin plâu a’r problemau dilynol a gellir cysylltu â hwy drwy’r Yellow Pages a chyfeiriaduron busnes eraill.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Gwarchod y Cyhoedd

Ffôn: 01633 648009

E-bost: adminteam.planningpp@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig