Lles Anifeiliaid

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bwerau statudol i ymgymryd â dyletswyddau iechyd a lles anifeiliaid yn yr ardal, sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a 2002, Deddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968, Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006, ynghyd â deddfwriaeth gysylltiedig.

Torfaen yn gorfodi deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid ochr yn ochr ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Weithiau, byddwn yn cynnwys cyrff eraill y llywodraeth a sefydliadau annibynnol fel yr RSPCA.

Mae'r swyddogaethau a gyflawnir yn ardal Torfaen yn cynnwys y canlynol:

  • Archwiliadau safleoedd Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi'u rhaglennu ar safleoedd amaethyddol, i sicrhau cydymffurfiaeth â chofnodion a lles ac unrhyw waith gorfodi dilynol yn ôl yr angen
  • Ymateb i bob cwyn / ymholiad sy'n ymwneud â materion Iechyd a Lles Anifeiliaid sy'n ymwneud â safleoedd amaethyddol, 
  • Yr holl gofnodi data, cadw cofnodion ac adrodd sy'n ofynnol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid yn y meysydd a restrir uchod
  • Arwain yr ymchwilio i bob clefyd hysbysadwy o ran Iechyd Anifeiliaid
  • Ymchwilio i gwynion yn ymwneud â lles

Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn ymdrechu i gydymffurfio â'n dyletswyddau i gyfrannu at amgylchedd diogel, iach a theg ac i fonitro a dylanwadu ar driniaeth anifeiliaid, gan orfodi safonau cymwys lle bo'n briodol.

Mae rheolau cyffredinol yn sicrhau bod perchnogion a cheidwaid yn gyfrifol am anghenion lles eu holl anifeiliaid. Mae deddfwriaeth a chodau ymarfer manwl yn bodoli i ddiogelu lles anifeiliaid ar ffermydd, wrth deithio, mewn marchnadoedd a phan fyddant yn cael eu lladd. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen am:

  • amgylchedd addas (lle i fyw)
  • diet addas
  • patrymau ymddygiad arferol
  • cael eu cartrefu gydag anifeiliaid eraill neu ar wahân (os yw hynny’n berthnasol)
  • cael eu hamddiffyn rhag poen, anaf, dioddefaint a chlefydau

Os oes gennych gŵyn am les anifeiliaid sy'n ymwneud ag anifeiliaid anwes a / neu geffylau, yna dylid rhoi gwybod i'r RSPCA am y mater ar 0300 1234 999 neu sefydliad / elusen lles anifeiliaid arall sy’n addas.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rhai o'r ymholiadau uchod neu ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, cysylltwch â animalhealth@torfaen.gov.uk neu rhowch alwad ar 01633 647286.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/10/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing and Trading Standards

Ffôn: 01633 647286

E-bost: animalhealth@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig