Gwaith Pellach ar Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl a'r Ardal Gaffi

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 1 Awst 2023

Mae gwaith ymchwilio pellach ar y gweill yng nghanol tref Pont-y-pŵl i baratoi at ddatblygu hwb diwylliannol ac ardal gaffi newydd.  

Ddydd Sadwrn 5 Awst a dydd Sul 6 Awst, fe fydd maes parcio’r Ganolfan Ddinesig ar gau dros dro, a bydd gofyn defnyddio meysydd parcio amgen.   

Hefyd, o ddydd Sadwrn 5 Awst tan ddydd Mawrth 8 Awst, bydd gwaith ymchwilio ar waith yn nhoiledau cyhoeddus Hanbury Road. Bydd y cyfleusterau ar gau dros dro yn ystod y cyfnod hwn ond bydd toiledau amgen ar gael ym:  

  • Mharc Pont-y-pŵl, sydd ar agor rhwng 7.30am a 5pm. Nid oes toiled hygyrch yn y cyfleusterau hyn. Mae toiledau hygyrch a chyfleusterau newid babanod ar gael yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl gerllaw  

  • Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl rhwng 7am a 8.30pm. Mae toiledau dynion, toiledau menywod, cyfleusterau newid babanod a thoiledau hygyrch ar gael.  

Gwneir arolygon asbestos yn ystod y cam hwn o’r gwaith. Mae iechyd a diogelwch y cyhoedd yn hanfodol a dyma pam y bydd y maes parcio a’r toiledau ar gau yn ystod y cam hwn o’r gwaith.  

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y caffi newydd a Maes Parcio Glantorvaen Road ym mis Ionawr 2024.   

Unwaith y bydd y gwaith wedi ei gwblhau, bydd dau doiled cyhoeddus hollol hygyrch newydd ar Hanbury Road, yn ogystal â chyfleusterau toiledau yn y caffi i gwsmeriaid. Fe fydd cyfleusterau toiledau newydd ym Maes Parcio Glantorvaen Road hefyd, yn ogystal â mannau parcio newydd i’r anabl a mannau gwefru cerbydau trydan.  

Roedd Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl, sy’n brosiect gwerth £9.3 miliwn, yn un o 11 prosiect yng Nghymru i gael nawdd gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n anelu at greu swyddi a thyfu’r economi lleol.   

Rhagor o wybodaeth am yr hyn fydd gan Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl i’w gynnig.  

Rhagor o wybodaeth am ble i barcio ym Mhont-y-pŵl    

Diwygiwyd Diwethaf: 01/08/2023 Nôl i’r Brig