Cau toiledau cyhoeddus dros dro

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Chwefror 2024
handbury road toilets

Fe fydd gwaith archwilio pellach ar y gweill yng nghanol tref Pont-y-pŵl i baratoi at ddatblygiad hwb diwylliannol ac ardal gaffi newydd.  

O ddydd Iau 29 Chwefror hyd ddydd Sadwrn 16 Mawrth, fe fydd gwasanaethau profi ac archwiliadau arbenigol, hanfodol yn cael eu gwneud yn y bloc toiledau cyhoeddus ar Hanbury Road.

Mae iechyd a diogelwch y cyhoedd yn holl bwysig ac felly fe fydd y cyfleusterau lles ar gau dros dro o ddydd Iau 29 Chwefror ac yn ailagor ddydd Llun 18 Mawrth.

Fe fydd toiledau eraill ar gael yn y mannau canlynol: 

  • Parc Pont-y-pŵl, ar agor rhwng 7.30am a 5pm.
  • Canolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl - mae yna doiledau dynion, toiledau menywod, cyfleusterau newid babanod a thoiledau hygyrch ar gael: rhwng 7am a 9pm o Ddydd Llun hyd Ddydd Gwener; rhwng 7am a 5pm ar Ddydd Sadwr; rhwng 7.45am a 7pm ar Ddydd Sul
  • Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl – mae yna doiledau dynion, toiledau menywod, cyfleusterau newid babanod a thoiledau hygyrch: rhwng 8am a 2pm ar Ddydd Llun; rhwng 8am a 5pm o Ddydd Mawrth hyd Ddydd Gwener; rhwng 8am a 4pm ar ddydd Sadwrn

Y bwriad yw newid toiledau cyhoeddus Hanbury Road yn gaffi/bwyty newydd sy’n edrych allan dros y Gerddi Eidalaidd a Pharc Pont-y-pŵl. Unwaith y bydd y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau, fe fydd dau doiled cyhoeddus hollol hygyrch newydd ar Hanbury Road, yn ogystal â chyfleusterau toiledau yn y caffi, i gwsmeriaid.

Roedd prosiect Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl, sydd werth £9.3 miliwn, yn un o 11 prosiect yng Nghymru i gael cyllid o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, sy’n anelu at greu swyddi a thyfu’r economi lleol.  

Gallwch ddarganfod beth fydd gan Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl i’w gynnig trwy glicio yma

Diwygiwyd Diwethaf: 23/02/2024 Nôl i’r Brig