Gwaith yn dechrau ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 1 Awst 2023

Mae’r broses o ddatblygu glasbrint ar gyfer y ffordd y bydd tir yn cael ei ddefnyddio yn y fwrdeistref, yn ailddechrau’n swyddogol heddiw. 

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi ble mae modd adeiladu tai a safleoedd cyflogaeth newydd yn ogystal ag ardaloedd a mannau cymunedol i wella llesiant corfforol a meddyliol a bioamrywiaeth leol. 

Mae’r cynllun cyfredol y mae Cyngor Torfaen wedi ei fabwysiadu yn rhychwantu’r blynyddoedd o 2013 i 2021. Roedd y gwaith wedi dechrau ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer y cyfnod o 2018 i 2033, ond yn dilyn sawl achos o oedi annisgwyl cytunodd Aelodau Etholedig i dynnu’r cynllun yn ôl ac ailddechrau’r broses. 

Fis diwethaf, cymeradwyodd Cynghorwyr gytundeb cyflawni newydd, sy’n nodi’r amserlen ar gyfer cynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol Newydd Torfaen ar gyfer y cyfnod o 2022 i 2037, yn ogystal â sut y gall rhanddeiliaid a chymunedau gymryd rhan a phryd y byddant yn gallu gwneud hynny. Yn y cyfamser, bydd y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol a fabwysiadwyd yn dal i fod ar waith.

Gallwch ddarllen y cytundeb cyflawni llawn neu weld copi o’r crynodeb gweithredol ar ein gwefan.

Cam cyntaf y broses o baratoi’r cynllun yw gwahodd datblygwyr neu berchnogion tir i gyflwyno safleoedd â’r potensial i’w hailddatblygu, a gelwir y rhain yn Safleoedd Ymgeisiol.

Mae gan unrhyw un sydd â diddordeb hyd nes ddydd Mawrth 26 Medi 2023 i gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol. Rhaid cyflwyno ceisiadau i’r cyngor ac mae’r canllawiau llawn ar gael ar y wefan. Cynhelir gweithdai i unrhyw un sydd eisiau cymorth a chyngor i ddefnyddio’r system, ar y dyddiadau canlynol:

* Dydd Llun 7 Awst 2023 - 10am

* Dydd Mawrth 22 Awst 2023 - 1pm

* Dydd Iau 7 Medi 2023 - 10am

I ymuno ag un o’r gweithdai, a gynhelir dros Microsoft Teams, anfonwch neges e-bost i ldp@torfaen.gov.uk gan nodi pa weithdy yr hoffech ymuno ag ef. Byddwch yn cael gwahoddiad i’r cyfarfod, trwy e-bost, cyn y digwyddiad. 

Disgwylir y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd drafft, rhwng mis Mai a mis Mehefin 2024. 

Meddai’r Cynghorydd Jo Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn ddogfen bwysig a fydd yn dylanwadu ar geisiadau cynllunio ac yn eu harwain dros y ddegawd nesaf. 

"Ein blaenoriaeth yw ystyried sut y gall y Cynllun Datblygu Lleol Newydd wella bywydau trigolion trwy leihau anghydraddoldebau, er enghraifft cynyddu nifer yr unedau o dai fforddiadwy, sicrhau swyddi, a hyrwyddo iechyd a llesiant ar yr un pryd. 

"Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd hefyd yn hanfodol wrth sicrhau ein bod yn gallu bodloni’r amcanion a gyflwynir yn ein Cynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur a’n bod ar y trywydd cywir er mwyn i Dorfaen fod yn garbon sero net erbyn 2050."

Diwygiwyd Diwethaf: 01/08/2023 Nôl i’r Brig