Uwchraddio cyrtiau tenis

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Awst 2023

Mae pedair set o gyrtiau tennis yn mynd i gael eu huwchraddio gyda buddsoddiad gan Gyngor Torfaen, y Gymdeithas Denis a Chwaraeon Cymru.  

Dechreuodd gwaith yr wythnos yma ar adnewyddiad gwerth £221,000 o’r cyrtiau tenis ym Mharc Cwmbrân, a fydd yn cynnwys ail-wynebu, ffensys newydd a marcio’r cyrtiau. Bydd y gwaith hefyd yn gweld buddsoddiad mewn cyfleusterau pêl-fasged a phêl-rwyd ar y safle, trwy £104, 275 gan Chwaraeon Cymru.  

Bydd clwyd diogelwch newydd hefyd yn cael ei osod ym Mharc Pont-y-pŵl ac mae system ar-lein newydd ar gyfer bwcio’n cael ei gyflwyno ar gyfer y cyrtiau ym Mharc Cwmbrân, Parc Pont-y-pŵl a Pharc Panteg. Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen y Gymdeithas Denis.  

Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog gyda’r Gymdeithas Denis: “Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Chyngor Torfaen i wella’u cyfleusterau tenis yn eu parciau a darparu mwy o gyfleoedd i unrhyw un sydd am godi raced a bod yn weithgar.   

“Mae’r buddsoddiad yma’n rhan o Brosiect Tenis Parciau Llywodraeth y DU a’r Gymdeithas Denis a bydd yn golygu y bydd cyrtiau ar gael i bobl ddefnyddio am flynyddoedd i ddod.  Byddwn ni hefyd yn gweithio’n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen er mwyn sicrhau bod gan y gymuned leol amrywiaeth o gyfleoedd hygyrch i fynd i’r cwrt ac agor ein camp i lawer mwy o bobl.” 

Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, yr Aelod Gweithredol dros Gymunedau: “Hoffem ddiolch i  Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas Denis am eu haelioni.  Bydd yr y gwaith adnewyddu’n gwneud gwahaniaeth anferth i ddefnyddwyr. Ac mae’r ffaith y bydd y cyrtiau’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer pêl-fasged a phêl-rwyd yn wych.   

“Rwy’n gobeithio y bydd trigolion yn cymryd mantais o’r cyfleusterau gwych unwaith y bydd y gwaith adnewyddu wedi ei orffen.  

Ychwanegodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus gyda Chwaraeon Cymru: “Mae creu cyfleoedd hygyrch ar gyfer chwaraeon yn hanfodol i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau hynny.   

“Mae Chwaraeon Cymru’n credu’n gryf bod creu cyfleoedd ar gyfer nifer o chwaraeon fel y gall pobl brofi mathau gwahanol o chwaraeon yn eu hardaloedd. Rydym yn falch iawn o gefnogi prosiect sy’n mynd i’r afael â’r angen yma yn y tair camp.” 

Daeth yr arian ar gyfer y gwaith adnewyddu o Chwaraeon Cymru a gyfrannodd £104,275, y Gymdeithas Denis a roddodd £94,316, ac arian Adran 106 y Cyngor a gyfrannodd £22,773.   

Disgwylir i’r gwaith ar y cyrtiau tenis yng Nghwmbrân gymryd chwe wythnos, gan ddibynnu ar y tywydd. Byddan nhw ar gau hyd nes gorffen y gwaith.  

Gallwch weld ble mae eich clwb tenis agosaf trwy fyd at wefan y Gymdeithas Denis.  

Darllenwch fwy am waith adnewyddu cyrtiau tenis Pont-y-pŵl a Pharc Panteg.  

Chwilio am rywbeth i wneud gyda’r plant dros yr haf, cymerwch gipolwg ar Ŵyl Hwyl Haf Torfaen  am syniadau.  

Diwygiwyd Diwethaf: 04/08/2023 Nôl i’r Brig