Llwybrau Beicio Eraill

Teithio trwy ganol Torfaen, mae Llwybr Lwyd Afon cysylltu â llawer o lwybrau ac atyniadau eraill

  • Llwybr 49 - O Bont-y-moel i Lan-ffwyst dilynwch lwybr 49 ar hyd camlas Mynwy ac Aberhonddu i weld golygfeydd syfrdanol dros Ddyffryn Wysg a’r Mynydd Du.
  • Llwybr 88 - Taith ragorol ar hyd afon Wysg yn syth i ganol y dref Rufeinig, Caerllion
  • Blaenau’r Cymoedd - Mae ambell i fryn ar y daith yma, ond mae’r golygfeydd werth pob ymdrech. Perffaith i’r beicwyr mwy profiadol yn eich plith, sy’n chwilio am antur fywiocaol ar 2 olwyn. Mae yna hefyd rhai adrannau gwych, heb draffig, o amgylch Y Fenni a Brynmawr, sy’n addas iawn i deuluoedd.
  • Llwybr Celtaidd Rhif 47 - dyma daith drawiadol heb draffig, yr holl ffordd i Lwybr Taf drwy 14 loc, Traphont Hengoed a 3 pharc gwledig Sirhywi,  Penalta a Thaf Bargoed. Am antur go iawn ar feic mynydd dilynwch lwybr 47 tua’r gorllewin o lwybr Taf i Gastell-nedd!
  • Llwybr 466 - Llwybr i’r beiciwr mwy profiadol i Grymlyn a’r dyffryn gorllewinol sy’n ymuno â llwybr 492 ym Mhont-y-pŵl. Ewch tua’r gogledd o Lanhiledd ar lwybr 465 i weld y Gwarchodwr mawreddog!
  • Llwybr 423 - Llwybr i feicwyr profiadol a chanddynt goesau cryfion. Teithiwch y bryniau tonnog i Drefynwy drwy dref farchnad brydferth Brynbuga. 
Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Access Team

Ffôn: 01633 648035

Nôl i’r Brig