Cod Ymddygiad Beicio

  • Cadwch yn ddiogel, byddwch yn gwrtais mwynhewch lwybrau beicio Torfaen.
  • Mae'r llwybrau wedi cael eu cynllunio i annog pobl i fwynhau cefn gwlad Torfaen drwy feicio, cerdded neu farchogaeth.
  • Cofiwch eu bod wedi eu cynllunio ar gyfer defnydd ar y cyd gan feicwyr, cerddwyr, defnyddwyr cadair olwyn a marchogion mewn mannau.

Ar gyfer holl ddefnyddwyr

  • Byddwch yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill, yn arbennig teuluoedd ifanc a phobl mewn cadeiriau olwyn.
  • Os ydych yn cerdded eich ci, cadwch e dan reolaeth dynn a chlirio unrhyw faw..

Marchogwyr

  • Parhewch gan gerdded wrth basio defnyddwyr eraill..

Beicwyr

  • Peidiwch â disgwyl defnyddio’r llwybr yn gyflym
  • Paratowch i arafu a stopio os oes angen.
  • Byddwch yn ofalus ar gyffyrdd, troeon a mynedfeydd
  • Ildiwch i gerddwyr, pobl mewn cadeiriau olwyn a marchogwyr
  • Cofiwch fod nifer o bobl yn drwm eu clyw neu arnynt nam ar eu golwg -
    peidiwch â chymryd fod pawb yn gallu eich gweld neu eich clywed
  • Defnyddiwch gloch - peidiwch â  dychryn pobl

Ac eithrio cerbydau’r anabl, gwaherddir ceir cerbydau modur o bob math rhag defnyddio llwybrau beicio Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Mynediad

Ffôn: 01633 648035

Nôl i’r Brig