Beicio yn Nhorfaen

Mae gan Dorfaen rhwydwaith helaeth o lwybrau beicio hawdd eu cyrchu y gellir eu defnyddio i fynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, cyrraedd cyfleusterau pwysig fel canolfannau hamdden a siopau, neu er pleser pur. Mae nifer o’r llwybrau oddi ar y ffordd ac maent yn pasio heibio tirweddau deniadol â nifer o nodweddion hanesyddol diddorol. Mae nifer y llwybrau wedi cynyddu’n gyflym iawn dros y blynyddoedd diweddar ac erbyn hyn mae yna rhwydwaith drawiadol iawn yn y cwm. 

Mae yna nifer o lwybrau ‘Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol’ (NCN) yn y fwrdeistref, yn cynnwys:

  • NCN 492 - Cwmbrân i Flaenafon
  • NCN 49 - Casnewydd i Famheilad
  • NCN 466 - Pont-y-pŵl i Grymlyn

Llwybr Afon Lwyd yw’r prif lwybr oddi ar y ffordd drwy Dorfaen a dilyna NCN 49 ac NCN 492  Gwmbrân i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. 

Mae map o’r holl lwybrau beicio ar y ffordd ac oddi ar y ffordd ar gael i’w lawr lwytho (Map Llwybr Beicio - Gogledd Torfaen a Map Llwybr Beicio - De Torfaen). Gellir prynu map poced o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar gyfer De Ddwyrain Cymru yn cynnwys llwybrau yn Nhorfaen gan Sustrans.

Twristiaeth a gwybodaeth

Canolfannau Croeso Canolfan

 I gael gwybodaeth bellach ar atyniadau, gweithgareddau, bwytai a lletyau ewch i: 

Diwygiwyd Diwethaf: 14/06/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cefn Gwlad

Ffôn: 01633 648329

Nôl i’r Brig