Gwahardd Disgyblion

Dylai penderfyniad i wahardd plentyn am gyfnod penodol neu'n barhaol ond cael ei wneud:

  • fel ymateb i dorri polisi disgyblu'r ysgol yn ddifrifol
  • pe byddai caniatáu i'r disgybl aros yn yr ysgol yn gwneud niwed difrifol i addysg neu les y disgybl neu ddisgyblion eraill yn yr ysgol

Rhoi gwybod i'r 'unigolyn perthnasol' am y gwaharddiad 

Dan y rheoliadau newydd a ddaeth i rym ym mis Ionawr 2004, mae'r 'unigolyn perthnasol' yn golygu:

  • y rhiant, os oedd y disgybl yn 10 oed neu'n iau ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol pan gafodd ei (g)wahardd
  • y rhiant a'r disgybl os yw'r disgybl o oedran ysgol gorfodol ac roedd yn 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol pan gafodd ei (g)wahardd. Y disgybl, os yw dros yr oedran ysgol gorfodol (16 fel arfer)

Rhaid i'r pennaeth sy'n gwahardd y disgybl sicrhau bod yr unigolyn perthnasol yn cael gwybod ar unwaith, dros y ffôn yn ddelfrydol. Dylai'r hysbysiad gwreiddiol dros y ffôn gael ei ddilyn gan lythyr cyn pen un diwrnod ysgol. Fel arfer, dylai gwaharddiad ddechrau ar y diwrnod ysgol nesaf. Ni ddylai disgyblion sy'n destun gwaharddiad gael eu gadael heb oruchwyliaeth na'u hanfon oddi ar y safle.

Rhaid i benaethiaid trefnu i waith gael ei ddarparu cyn gynted ag y caiff disgybl ei (g)wahardd am gyfnod penodol. Dylai rhieni drefnu i gasglu a dychwelyd y gwaith hwnnw a rhaid i'r ysgol sicrhau y caiff ei farcio a bod rhagor o waith yn cael ei ddarparu nes i'r disgybl ddychwelyd i'r ysgol. Rhaid i'r llythyr sy'n rhoi gwybod i rieni am y gwaharddiad gynnwys y trefniadau ar gyfer gosod a marcio gwaith.

Mathau o Waharddiad

Y penderfyniad i wahardd

Dim ond y pennaeth, neu rywun a benodwyd yn bennaeth dros dro, sydd â'r pŵer i wahardd disgybl o'r ysgol. 

Ni ddylai gwaharddiad gael ei benderfynu yn fyrbwyll, oni bai bod perygl uniongyrchol i ddiogelwch eraill yn yr ysgol neu'r disgybl dan sylw.

Hyd y gwaharddiad

Mae rheoliadau dan Ddeddf Addysg 2002 yn caniatáu i benaethiaid wahardd disgybl am gyfnodau penodol nad ydynt yn hwy na 45 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn ysgol. Fodd bynnag, dylai gwaharddiadau fod am y cyfnod byrraf sydd ei angen i sicrhau manteision y gwaharddiad heb unrhyw ganlyniadau addysgol niweidiol.

Ym mhob achos o waharddiad sy'n hwy nag un diwrnod, rhaid i benaethiaid drefnu i waith gael ei gasglu a'i ddychwelyd a rhaid i'r ysgol sicrhau y caiff rhagor o waith ei osod nes i'r disgybl ddychwelyd i'r ysgol.

Gwaharddiadau amser cinio

Gall ymddygiad rhai plant fod yn arbennig o anodd yn ystod amser cinio. Lle mae hyn yn wir, gallai fod yn bosibl trafod a chytuno â'r rhiant i'r disgybl fynd adref am ginio. Os nad yw hynny'n ymarferol, mae darpariaethau ar gael i roi'r cyfrifoldeb cyfreithiol am y plentyn yn ôl i'r rhiant. Lle caiff gwaharddiadau amser cinio eu defnyddio, dylent fod yn fesur byrdymor yn unig. Os yw plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim, dylid gwneud trefniadau i ddarparu pryd o fwyd a gallai hyn olygu pecyn cinio.

Gwaharddiadau parhaol

Mae gwaharddiad parhaol yn gam difrifol iawn. Cydnabyddiaeth ydyw gan yr ysgol ei bod wedi dihysbyddu pob strategaeth sydd ar gael ar gyfer ymdrin â'r plentyn ac na all y plentyn fod yn rhan o'i chymuned mwyach.

Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA)

Ac eithrio yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol, dylai ysgolion osgoi gwahardd disgyblion â datganiad o AAA yn barhaol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y pennaeth yn ymwybodol bod yr ysgol, boed yn ysgol brif ffrwd neu arbennig, yn ei chael hi'n anodd rheoli ymddygiad disgyblion ymhell cyn i'r sefyllfa gyrraedd y graddau lle mae angen ystyried gwaharddiad.

Dylai ysgolion roi cynnig ar bob dull posibl o gadw lleoliadau, gan gynnwys cysylltu â'r AALl a fydd yn trefnu adolygiad statudol o'r datganiad, yn ôl yr angen.

Dylai swyddog fod yn gyfrifol am gymryd y camau gweithredu cytûn. Swyddog Cynhwysiant penodedig yr ysgolion fydd y swyddog hwn.

Proses Apelio ac Ailintegreiddio

Proses Apelio

Dylai llythyr gwahardd y pennaeth roi gwybod i'r unigolyn perthnasol am y gweithdrefnau os bydd yn dymuno gwneud sylwadau neu apelio i Bwyllgor Disgyblu'r corff llywodraethol yn erbyn y gwaharddiad. Yn dilyn hynny, ceir hawl i apelio i Banel Apeliadau Annibynnol ar gyfer gwaharddiadau parhaol ac, eto, dylid rhoi gwybodaeth lawn i'r unigolyn perthnasol ar yr adeg briodol.

Gallai'r Awdurdod (gan gynnwys corff llywodraethol Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir) wrthod cydymffurfio â dewis y rhieni am gyfnod o flwyddyn yn dilyn ail waharddiad neu waharddiad dilynol yn yr amgylchiadau hynny (nid all rhiant apelio).

Ailintegreiddio

Dylai cynllun ailintegreiddio unigol (neu gynllun pontio) gael ei lunio er mwyn i'r disgybl ddychwelyd i'r ysgol neu addysg y tu allan i'r ysgol, pa un bynnag sydd fwyaf priodol.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Cynhwysiant

Ffôn: 01495 766929 neu 01495 766968

Nôl i’r Brig