Gwrth-fwlio

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial, gan gynnwys yr hawl i ddysgu mewn amgylchedd diogel ac amddiffynnol yn rhydd o fwlio neu wahaniaethu o unrhyw fath.

Mae Canllawiau a Pholisi Gwrth-fwlio Torfaen ar gyfer Lleoliadau Addysg yn darparu manylion am rwymedigaethau a disgwyliadau statudol ar ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Mae'r ddogfen yn rhoi enghreifftiau o arfer gorau i ysgolion o ran atal ymddygiad bwlio ac arweiniad ar sut i ysgrifennu Polisi Gwrth-fwlio.

Gellir ymweld â gwefan gwrth-fwlio sy'n darparu gwybodaeth a chyngor i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol trwy roi clic ar www.antibullytorfaen.org.uk.

Gweler yr adnoddau isod a allai fod yn ddefnyddiol:

Diwygiwyd Diwethaf: 18/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Ffôn: 01495 766929

Nôl i’r Brig