Hysbysiadau Cosb Benodedig gan yr Ysgol

Gall ysgol alw am Hysbysiad Cosb Benodedig am y rhesymau canlynol:

  • Pan fydd o leiaf 10 sesiwn heb awdurdod neu bum diwrnod ysgol yn y flwyddyn gyfredol (nid oes angen i'r rhain fod yn olynol).
  • Hwyrni parhaus h.y. cyrraedd ar ôl diwedd y cyfnod cofrestru.
  • Pan fydd rhiant neu rieni yn gwrthod ymgysylltu ag ysgol i wella lefelau presenoldeb ysgol eu plentyn.
  • Triwantiaeth barhaus mewn man cyhoeddus.
  • Pan ofynnir am wyliau yn ystod y tymor ond nad yw wedi'i awdurdodi (gweler y canllawiau ar wyliau yn ystod y tymor).

Os bydd ysgol yn galw am gyflwyno hysbysiad cosb benodedig, byddwn yn adolygu’r wybodaeth ac yn cyflwyno hysbysiad cosb benodedig os yw’n briodol gwneud hynny yn unig.

Oes rhaid i mi dalu?

Mae HCB sy’n ymwneud â phresenoldeb ysgol yn £60 os bydd yn cael ei dalu cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad y derbyniwyd yr hysbysiad, ac mae’n cynyddu i £120 os telir y swm ar ôl 28 diwrnod, ond o fewn 42 diwrnod o dderbyn yr hysbysiad. Os na fydd yr HCB wedi ei dalu’n llawn erbyn diwedd y cyfnod o 42 diwrnod, gallwn naill ai:

  • erlyn rhieni/gofalwyr yn y ffordd arferol gan ddefnyddio adran 444(1) neu (1A) Deddf Addysg 1996.
  • tynnu'r HCB yn ôl mewn amgylchiadau cyfyngedig.

Nid oes hawl statudol i apelio ond pan fydd rhiant yn dadlau yn erbyn hysbysiad cosb benodedig, gallant anfon unrhyw gwynion i’r Gwasanaeth Lles Addysg a/neu ddewis wynebu achos yn y llys ynadon dan adran 444 Deddf Addysg 1996.

Gallwch dalu hysbysiad cosb benodedig ar lein.

Absenoldebau heb awdurdod

Cofnodir absenoldeb heb awdurdod pan nad yw'r rheswm a roddwyd am absenoldeb yn cael ei ystyried yn dderbyniol gan y Pennaeth.

Pennaeth ysgol eich plentyn yn unig all awdurdodi absenoldeb disgybl.

I gael mwy o wybodaeth am absenoldebau heb awdurdod, ewch i’r dudalen Presenoldeb Ysgol.

Gwella presenoldeb

Gallwch wella presenoldeb eich plentyn ac osgoi hysbysiad cosb benodedig trwy ddilyn y camau hyn:

  • Sicrhau bod eich plentyn yn mynd i'r ysgol bob dydd ac yn cyrraedd ar amser.
  • Os yw eich plentyn yn sâl, sicrhau eich bod yn cysylltu â’r ysgol ar y diwrnod cyntaf ac egluro’r amgylchiadau. Efallai y gofynnir i chi ddangos tystiolaeth feddygol.
  • Sicrhau bod gan yr ysgol eich manylion cyswllt cywir.
  • Osgoi trefnu gwyliau yn ystod y tymor.
Diwygiwyd Diwethaf: 22/11/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Inclusion Service

E-bost: EWS@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig