Y Gwasanaeth Lles Addysg

Mae Gwasanaeth Lles Addysg Torfaen yn rhoi cefnogaeth broffesiynol i blant, teuluoedd ac ysgolion i wella presenoldeb yn yr ysgol.

Mae ymchwil yn dangos bod cyfraddau presenoldeb ar gyfartaledd o 95 y cant ac uwch yn allweddol i gael addysg dda.  

Beth gallaf i wneud os oes gen i bryder am bresenoldeb fy mhlentyn?

Y cam cyntaf yw cysylltu ag ysgol eich plentyn i ofyn am gyfarfod gyda’r person sy’n gyfrifol am grŵp blwyddyn eich plentyn. Gallech esbonio’r amgylchiadau ac unrhyw broblemau sy’n atal y plentyn rhag mynd i’r ysgol yn rheolaidd.  

Bydd yr ysgol yn cymryd camau wedyn i’ch cefnogi chi a’ch plentyn i wella presenoldeb, a allai gynnwys cyfarfod â Swyddog Lles Addysg yr ysgol.

Os hoffech chi gael cyngor a chefnogaeth bellach, gallwch gysylltu â’r gwasanaeth trwy ddanfon e-bost at EWS@torfaen.gov.uk a rhoi enw ysgol eich plentyn yn y llinell destun. 

Sut all y Gwasanaeth Lles Addysg helpu?

Gall swyddogion helpu plant, teuluoedd a staff dysgu i edrych ar y rhesymau am absenoldeb o’r ysgol, fel problemau iechyd corfforol neu feddyliol neu ddiffyg presenoldeb am resymau emosiynol, ac yna cynnig gwybodaeth a chyfarwyddyd priodol.

Gallan nhw hefyd roi cyngor i deuluoedd am wasanaethau cymorth arbenigol a gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau priodol.

Beth gallaf i ddisgwyl gan y gwasanaeth?

Mae Swyddogion Lles Addysg yn gweithio mewn partneriaeth â disgyblion, teuluoedd ac ysgolion i wella presenoldeb disgyblion.

Byddan nhw’n cytuno ar ac yn cyflwyno cynlluniau gweithredu i wella presenoldeb yn yr ysgol neu ddarpariaeth addysgol amgen, fel diwrnodau byrrach neu lai o ddiwrnodau am gyfnod penodol.

Mae gan swyddogion ddyletswydd i ystyried unrhyw faterion diogelu neu warchod plant, a fydd yn cael eu trafod gyda theuluoedd.

Os nad yw rhieni neu ofalwyr yn ymgymryd ag argymhellion swyddogion neu’n sicrhau bod eu plentyn yn mynd i’r ysgol neu sefydliad addysgol amgen, gall y gwasanaeth roi Hysbysiadau o Gosb Benodol neu gymryd camau i erlyn ar ran yr awdurdod lleol.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Gwasanaeth Lles Addysg

E-bost: EWS@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig