Fforwm Mynediad Torfaen

Torfaen Access ForumSefydlwyd Fforwm Mynediad Torfaen yng Ngorffennaf 2020 i amlygu rhai o’r problemau oedd gan bobl ag anableddau corfforol a chudd yn ystod y pandemig – fel trefnu siopa bwyd, cael mynediad i wybodaeth a diffyg cyfleoedd i ymarfer corff.

Mae’r grŵp wedi tyfu ers hynny ac mae’n bwriadu nawr codi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o heriau sy’n wynebu pobl sy’n byw ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir yn Nhorfaen.

Mae’r fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd gyda sefydliadau lleol i drafod amrywiaeth o faterion fel cyfleoedd hamdden, gofal iechyd, mynediad at gefn gwlad a pharcio i’r anabl, gyda’r bwriad o gael hyd i atebion posibl.

Er enghraifft, mae’r grŵp wedi ymgyrchu’n llwyddiannus dros gyfleusterau parcio gwell yng nghanol tref Cwmbrân a sesiynau newydd yn y gampfa i bobl ag anableddau.  

Llynedd, ddaeth y fforwm yn Sefydliad Pobl Anabl ac mae’n gweithio’n agos ag Anabledd Cymru. Mae aelodau’n cymryd rhan yn aml mewn grwpiau ffocws, cynadleddau, cyfleoedd ymchwil gyda Llywodraeth Cymru ac Anabledd Cymru.

Mae’r grŵp yn cyfarfod pob dau fis ac mae aelodau’n cyfarfod yn anffurfiol hefyd.

Am fwy o wybodaeth, danfonwch e-bost at Taftorfaen@outlook.com.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 08/08/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Fforwm Mynediad Torfaen

Ebost: Taftorfaen@outlook.com

Nôl i’r Brig