Panel Pobl Torfaen

Mae Panel y Bobl Torfaen yn cynnwys trigolion o wahanol oedran a chefndiroedd o bob cwr o’r fwrdeistref a’i nod yw cynrychioli poblogaeth Torfaen o ran rhywedd, ethnigrwydd a daearyddiaeth.

Mae Panel y Bobl Torfaen yn rhoi cyfle i drigolion i lunio sut cyflenwir gwasanaethau cyhoeddus yn lleol naill ai gan y Cyngor neu gan bartneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.

Gall aelodau’r Panel gymryd rhan mewn nifer o wahanol ffyrdd a phenderfynu ar lefel eu cyfranogiad. Gall aelodau:  

  • Gyfrannu at ymgynghoriadau
  • Mynychu grwpiau ffocws/trafodaeth
  • Gweithio gyda sefydliadau i lunio polisi a chyflenwi gwasanaeth 
  • Gwneud sylwadau ar bolisïau 
  • Gwneud sylwadau ar strategaethau
  • Cymryd rhan ym mhrosesau craffu’r cyngor

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Panel, ebostiwch louise.day@torfaen.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, ewch i’w gwefan www.gwentpsb.org.

Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd

Rydym yn gwerthfawrogi barn pobl sy'n byw ac yn gweithio yn Nhorfaen. Mae ein meysydd gwasanaeth yn annog aelodau'r gymuned i gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, a defnyddio eu barn a'u profiadau i lywio cynlluniau, polisïau a chamau gweithredu. Darganfyddwch mwy yn ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Panel Pobl Torfaen

Ffôn: 01495 766159

E-bost: getinvolved@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig