Rhwydwaith Llysgenhadon Hinsawdd

Climate Ambassdors Network

Mae Rhwydwaith Llysgenhadon Hinsawdd Torfaen yn fforwm newydd i drigolion sydd â diddordeb mewn cynorthwyo eu cymunedau i ddod yn garbon sero net erbyn 2050.

Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd i ddysgu am fentrau lleol i dorri carbon neu feithrin natur ac i drafod sut gallent gynorthwyo cymunedau i leihau eu hôl troed carbon.

Mae cyfarfodydd diweddar wedi cynnwys cyflwyniad am newidiadau i’r seilwaith lleol i annog mwy o bobl i gerdded neu feicio ar deithiau byrion a sut mae Cyngor Torfaen yn symud tuag at ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy.

Mae’r llysgenhadon hefyd yn trafod a rhannu syniadau a gwybodaeth ar hwb ymgysylltu cymunedol Cyngor Torfaen, Dweud eich Dweud Torfaen.

I ymuno, cysylltwch â gren.ham@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 01/05/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhwydwaith Llysgenhadon Hinsawdd

Ebost: gren.ham@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig